Â鶹ԼÅÄ

Cyfyngiadau Caerffili i barhau am o leiaf wythnos arall

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sir Caerffili oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gyflwyno cyfnod clo lleol

Bydd cyfyngiadau yn Sir Caerffili - yr ardal gyntaf yng Nghymru i gyflwyno cyfyngiadau lleol - yn cael eu hymestyn am o leiaf wythnos arall.

Dywedodd uwch swyddogion y cyngor bod angen mwy o waith cyn y bydd modd codi'r cyfyngiadau ar yr ardal.

Bydd adolygiad arall o'r cyfnod clo lleol ymhen wythnos.

Fel yw'r achos ar gyfer rhannau helaeth o Gymru erbyn hyn, dydy pobl ddim yn cael teithio dros ffiniau'r sir heb "esgus rhesymol", fel gwaith neu addysg.

Cafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno yn Sir Caerffili ar 8 Medi - hon oedd yr ardal gyntaf i orfod gwneud hynny ers i'r cyfyngiadau cenedlaethol gael eu llacio yn ystod y gwanwyn a'r haf.

'Gwaith pellach i'w wneud'

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd arweinydd y cyngor, Philippa Marsden a'r prif weithredwr Christina Harrhy eu bod wedi "cytuno y bydd ein cyfyngiadau yn parhau am o leiaf saith diwrnod arall" yn dilyn cyfarfod gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Dywedon nhw eu bod wedi cytuno i ddatblygu cynllun ar gyfer codi'r cyfyngiadau erbyn yr adolygiad nesaf.

"Mae cyfradd yr haint ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth wedi gostwng o dros 100 i thua 50 dros yr wythnosau diwethaf," meddai'r datganiad.

"Mae hyn yn gyflawniad grêt ond mae gennym waith pellach i'w wneud i leihau'r ffigwr ymhellach.

"Mae'r feirws yn lledu'n sydyn iawn ac mae'r ffigyrau'n cynyddu'n sydyn ond maen nhw'n cymryd yn hirach i ostwng, felly ni allwn ni gymryd ein troed oddi ar y sbardun."