Â鶹ԼÅÄ

Cyfyngiadau coronafeirws i barhau yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Huw Fairclough

Bydd cyfyngiadau a gyhoeddwyd yng Nghaerffili ar 8 Medi yn parhau mewn grym am wythnos arall.

Yn ôl y ddeddf roedd rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu'r mesurau ar ddiwedd tair wythnos, ac maen nhw wedi gwneud hynny.

Mewn datganiad brynhawn Iau, fe ddywedon nhw bod achosion o Covid-19 wedi lleihau yn gyson ers i'r mesurau gael eu cyflwyno, a'u bod yn diolch i'r trigolion am eu gwaith caled i geisio atal y feirws rhag lledu.

Ond ychwanegodd y datganiad: "Mae gennym fwy i wneud. Mae graddfa heintio yn dal yn uchel yn y bwrdeistref - yn uwch na'r hyn y byddem yn dymuno gweld.

"Ar ôl trafod y mater gyda'r awdurdod lleol, rydym wedi penderfynu gadael y cyfyngiadau mewn lle am o leia saith diwrnod arall. Os fyddwn yn gweld lleihad pellach mewn achosion, rydym yn gobeithio medru ystyried llacio'r cyfyngiadau lleol."

Yn y cyfamser, bydd y cyfyngiadau canlynol mewn grym i bawb sy'n byw o fewn bwrdeistref Caerffili:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn nac allan o ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili heb esgus rhesymol;

  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau dan do sydd yn agored i'r cyhoedd, megis siopau, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus - fel sy'n wir am weddill Cymru;

  • Bydd pobl ond yn cael cwrdd yn yr awyr agored am y tro. Ni fydd pobl yn medru cwrdd gydag aelodau o'u haelwydydd estynedig o dan do, na ffurfio aelwyd estynedig.

Daw cyfyngiadau Cymru gyfan i rym am 18:00 nos Iau sy'n gwahardd gwerthu alcohol ar ôl 22:00, a bydd rhaid i fusnesau lletygarwch sy'n gwerthu alcohol ddarparu gwasanaeth gweini wrth y bwrdd yn unig.