'Profiad cwbl wahanol i fyfyrwyr prifysgol eleni'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ffurfio swigen gyda'r bobl sy'n rhannu yr un fflat gyda nhw mewn neuadd

Mae myfyrwyr sy'n dechrau ar fywyd prifysgol y mis hwn yn wynebu "profiad gwahanol iawn" medd UCM Cymru, sefydliad sy'n cynrychioli dros chwarter miliwn o fyfyrwyr o'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach.

Yn sgil cyfyngiadau Covid-19, mae nifer o ddigwyddiadau wythnos y glas wedi eu canslo a bydd yn rhaid i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf ffurfio swigod gyda chyd-fyfyrwyr nad ydynt o bosib wedi'u cyfarfod o'r blaen.

Dywed Becky Ricketts, o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ei bod yn ofni y bydd unigrwydd yn fwy o broblem eleni.

"Bydd wythnos y glas yn dra gwahanol ond ry'n yn cydnabod bod yn rhaid i bethau fod fel hyn er mwyn cadw pawb - myfyrwyr a staff - yn ddiogel," meddai.

"Ar hyn o bryd mae rhan fwyaf o undebau prifysgolion ar draws Cymru yn cynnal digwyddiadau i fyfyrwyr newydd ar-lein er mwyn annog rhywfaint o gymdeithasu."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Becky Ricketts, llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru ei bod yn ofni y bydd mwy o fyfyrwyr yn wynebu unigrwydd eleni

Ychwanegodd: "Ychydig iawn o ymwneud wyneb i wyneb fydd yna hefyd - hynny'n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

"Ond bydd prifysgolion yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl i fyfyrwyr gan ein bod yn cydnabod y bydd unigrwydd yn fwy o broblem eleni nag yn ystod blynyddoedd blaenorol."

'Yma i gefnogi'

Dywed Iwan Evans, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor y bydd pethau yn anorfod yn wahanol ond does dim rhaid i'r profiadau fod yn rhai drwg chwaith.

Wrth ymateb i Cymru Fyw dywedodd: "Mae prifysgolion ac Undebau Myfyrwyr yn benderfynol o sicrhau fod profiad myfyrwyr yn flaenoriaeth, a bod profiad myfyrwyr o fywyd prifysgol dal am fod yn brofiad gwerth chweil.

"Mae manteisio ar dechnoleg yn ein galluogi i gynnig gwahanol fathau o weithgareddau fydd yn gallu cysylltu pobol gyda'i gilydd, mewn ffordd na fyddai'n bosib yn y cnawd."

Ffynhonnell y llun, Geograph

Disgrifiad o'r llun, Prifysgol Bangor

Ychwanegodd Iwan Evans: "Mae'n debygol y bydd unigrwydd yn broblem fawr fydd myfyrwyr yn ei wynebu mewn prifysgolion ar draws y DU, sy'n debyg i'r hyn mae gweddill y gymdeithas yn wynebu ond fel undeb rydym yma i gefnogi ein myfyrwyr a sicrhau bod nhw'n cael cefnogaeth briodol o ran eu lles a'u hiechyd meddwl.

"Mi fydd y brifysgol yn parhau i ddarparu gwasanaethau cefnogol a iechyd meddwl i fyfyrwyr a bydd y ddarpariaeth yn gymysgedd o wasanaeth ar y campws ac ar-lein."

'Rhaid dod mla'n'da'r lleill'

Mae Mali Gerallt Lewis o Lan-non ger Aberaeron newydd gyrraedd Prifysgol Spa yng Nghaerfaddon.

"Ydi mae'n brofiad gwahanol iawn - fi newydd gyrraedd ddydd Sadwrn," meddai, "wrth siarad â Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Mali Gerallt Lewis

Disgrifiad o'r llun, Mae Mali Gerallt Lewis yn fyfyrwraig blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bath Spa

"Dwi erioed wedi gweld y pump arall sy'n rhannu fy aelwyd estynedig ond mae popeth yn iawn mor belled. Ro'n i wedi cael gwybod pwy oedd yn yr un swigen â fi cyn dod - felly roedd hwnna yn rywfaint o help.

"Fi'n ffliwtydd ac yn astudio cerddoriaeth yma ond ry'n ni wedi cael gwybod na fydd dim perfformio eleni ac fe fydd hynna'n rhyfedd iawn. Bydd y pwyslais felly ar y cyfansoddi.

"Ond mewn ffordd y peth pwysicaf yw bo fi'n dod mlân 'da pobl sydd yn yr un swigen. Fi'n gobeithio allai ymuno â'r clwb rhwyfo gan bod hwnna tu fas ond sai'n gwybod eto a fydd hynny'n bosib."

Y rheolau yng Nghymru

Mae rheolau Llywodraeth Cymru yn gymwys i bawb sydd yn astudio yng Nghymru ac felly bydd yn rhaid i'r sawl sydd yn byw mewn neuadd ffurfio swigen gydag eraill sy'n byw yn yr un fflat.

Mae'r rheol sy'n nodi na chaiff mwy na chwech gyfarfod yn golygu na fydd hawl cwrdd â myfyrwyr o fflatiau eraill y tu mewn.

Mae hawl gan fyfyrwyr ymweld â thafarndai a thai bwyta ond dim ond gydag aelodau o'u haelwyd estynedig.

Ffynhonnell y llun, Colin Smith/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Bydd myfyrwyr yn dod i Brifysgol Caerdydd yn ystod yr wythnosau nesaf ond fydd pethau yn dra gwahanol i'r blynyddoedd blaenorol

Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam eisoes wedi dweud nad oes hawl gan fyfyrwyr o dai gwahanol gyfarfod y tu mewn ond mae modd i 30 gyfarfod y tu allan os ydynt yn ufuddhau i ofynion y llywodraeth.

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi dweud hefyd nad oes hawl gan neb y tu hwnt i'r swigen aros mewn neuadd.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud wrth fyfyrwyr am gadw ddau metr ar wahân ac wedi dweud wrthynt am osgoi rhannu llestri mewn neuaddau.

Hawl i gael parti?

Does yna ddim hawl i gael parti mawr mewn tÅ· gan mai dim ond chwech aelod o un aelwyd estynedig sy'n gallu cyfarfod y tu mewn.

Dros y penwythnos fe wnaeth Cyngor Ceredigion gynghori un o fariau Aberystwyth i dynhau eu mesurau diogelwch ar ôl i dorf o bobl ifanc gael eu ffilmio yn torri rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Ifan Price

Disgrifiad o'r llun, Llun oddi ar y fideo a gafodd ei gymryd yn hwyr nos Wener y tu allan i glwb a thafarn y Pier yn Aberystwyth

Ddydd Sul dywedodd myfyriwr wnaeth ffilmio'r fideo y tu allan i glwb nos y Pier ei fod wedi cael ei frawychu.

"Mae'n poeni fi, yn enwedig o edrych ar Geredigion, oherwydd mae llai na 100 achos drwy'r pandemig i gyd," meddai Ifan Price, sy'n fyfyriwr yn yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Bydd 'na 8,000 o fyfyrwyr yn cyrraedd Aberystwyth y penwythnos yma, a bydd hwnna'n newid demograffeg pob dim, ac mae angen meddwl beth fydd yr effaith."

Beth am gyfyngiadau lleol?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cyfyngiadau lleol eu gosod yn sir Rhondda Cynon Taf nos Iau

Mae gan Brifysgol De Cymru un campws sy'n wynebu cyfyngiadau lleol sef yr un yn Nhrefforest yn sir Rhondda Cynon Taf.

Ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol bod modd i fyfyrwyr gyrraedd eu llety ond unwaith y byddant wedi cyrraedd fydd hi ddim yn bosib iddynt adael sir Rhondda Cynon Taf.

Byddant hefyd yn gorfod gwisgo mygydau y tu mewn a chyfarfod â phobl y tu hwnt i'w haelwyd estynedig y tu allan.

Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd fel Ffrainc, Portiwgal a'r Iseldiroedd hunan-ynysu am bythefnos wedi iddynt gyrraedd.