'Edrych i symud mwy o adnoddau profi'n ôl i GIG Cymru'

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae swyddogion yn edrych i sicrhau fod mwy o adnoddau profi am coronafeirws yn symud yn ôl i GIG Cymru, medd y Gweinidog Iechyd yn ystod cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

Pan ofynnwyd pam nad yw GIG Cymru'n defnyddio'i holl gapasiti profi ar hyn o bryd, atebodd Vaughan Gething bod Llywodraeth Cymru eisiau symud mwy o adnoddau i'r mannau ble mae yna arwyddion fod nifer achosion Covid-19 ar gynnydd.

Ychwanegodd fod system brofion Labordai Goleudy Llywodraeth y DU "ddim yn mynd i'r afael yn briodol" ag achosion ble mae pryder cynyddol o fewn ardaloedd neilltuol.

Petai mwy o adnoddau profi'n symud yn ôl i GIG Cymru, meddai, byddai'n bosib "gwneud dewisiadau ynghylch y mannau â'r flaenoriaeth uchaf" petai'n dod i'r amlwg fod problemau trefnu profion.

Mwy o brofi cyson

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cynnal profion bob pythefnos yn lle bob wythnos yng nghartrefi gofal y gogledd, atebodd fod y rhanbarth â nifer "isel iawn" o achosion positif.

Ychwanegodd fod yna fwy o brofi cyson mewn mannau lle mae pryderon neilltuol, gan gynnwys Caerffili, ble mae cyfnod clo lleol mewn grym, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd.

Disgrifiad o'r llun, Prawf yn cael ei gynnal mewn uned symudol yn y Rhondda ddydd Sadwrn

Dywedodd Mr Gething hefyd fod angen "datrysiad brys ar lefel y DU" i fynd i'r afael â thrafferthion arweiniodd at gyfyngu nifer y profion posib yn Rhondda Cynon Taf nos Wener.

Ddydd Gwener, fe osododd Llywodraeth y DU uchafswm ar nifer y profion y gellid eu cwblhau yn y Labordai Goleudy, gan gynnwys rhai yng Nghymru, oherwydd cynnydd yn y galw am brofion ar draws y DU.

Sawl wythnos cyn datrysiad?

Rhybuddiodd Mr Gething bod angen datrys y broblem cyn i'r galw am brofion gynyddu eto fyth, gan gadw mewn golwg y posibilrwydd o ail don o achosion Covid-19.

Dywedodd fod disgwyl pwysau ar wasanaethau iechyd yn ystod yr hydref a'r gaeaf, wrth i fwy o bobl gael annwyd, peswch a symptomau tebyg i rai coronafeirws, pan fo myfyrwyr yn ôl yn yr ysgolion a cholegau.

"Mae hyn yn digwydd ar adeg arbennig o anodd i ni oll," meddai.

"Ond dydw i ddim yn meddwl bod o'n mynd i gael ei ddatrys am sawl wythnos, ac mae hynny yn dilyn trafodaeth adeiladol gan y pedwar gweinidog iechyd ddiwedd wythnos ddiwethaf.

"Dyna pam rydym yn symud rhan o'r capasiti o labordai GIG Cymru i sicrhau fod unedau profi symudol yn cael eu cynnal trwy labordai Cymru."

Byddai hynny, meddai, yn "sicrhau ein bod â digon o gapisiti pe gwelwch ni ragor o godiadau mewn achosion er mwyn symud yr unedau hynny o gwmpas, tra bod trafferthion y labordai Goleudy'n cael eu datrys".