Â鶹ԼÅÄ

Covid-19 Casnewydd: Rhai yn 'anwybyddu' rheolau

  • Cyhoeddwyd
Peint

Mae rhybudd o'r newydd i bobl ardal Casnewydd fod yn wyliadwrus o symptomau Covid-19 yn dilyn sawl achos yn gysylltiedig â bariau a chlybiau yn y ddinas.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ei fod yn ymchwilio wedi cynnydd yn yr achosion positif, a bod rhai pobl yn "anwybyddu rheolau pellhau cymdeithasol".

Mae gan Gasnewydd y bedwaredd gyfradd uchaf o achosion Covid-19 yng Nghymru, gyda 43.3 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth.

Ychwanegodd Heather Lewis o ICC bod nifer fach o bobl "ddim yn bod yn onest" wrth drafod pwy maen nhw wedi bod mewn cyswllt â nhw.

Cafodd 15 o achosion newydd eu hadrodd yn ardal Casnewydd ddydd Sul - gan olygu bod 67 yn yr wythnos ddiwethaf, yn ôl ICC.

Dim ond Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf sydd â chyfraddau uwch na Chasnewydd yng Nghymru.

Dywedodd ICC y dylai unrhyw un sydd wedi bod yn nhafarndai a bariau'r ddinas fod yn "wyliadwrus iawn" am symptomau'r coronafeirws - yn cynnwys tymheredd uchel, peswch a cholli'r gallu i flasu neu arogli.

Dywedodd ICC y dylai pobl hunan-ynysu a chael prawf ar unwaith os ydynt yn teimlo'n sâl, ac wedi bod yn un o'r bariau canlynol:

  • Breeze, Ffordd Cambrian - 4 a 5 Medi;

  • The Potters, Upper Dock Street - 5 Medi;

  • Break 'n' Dish, Stow Hill - rhwng 1-8 Medi;

  • Tiny Rebel, TÅ·-du - 6,7,8 Medi;

  • Ye Olde Bull Inn, Caerllion - 4 Medi;

  • The Handpost, cyffordd Heol Rhisga a Heol Basaleg - 8 Medi;

  • Three Horseshoes, Ffordd Pillmawr - 6 Medi.

'Anwybyddu rheolau'

Dywedodd arweinydd Cyngor Casnewydd bod "nifer pryderus o achosion yn deillio o bobl ddim yn cadw at y rheolau wrth gymdeithasu".

Ychwanegodd Jane Mudd: "Eto, dwi'n gwneud apêl i bawb yng Nghasnewydd a phob ymwelydd i'n dinas i weithredu i leihau lledaeniad y feirws."

Ychwanegodd Heather Lewis, ymgynghorydd gydag ICC, bod "tystiolaeth bod rhai yn anwybyddu'r rheolau pellhau cymdeithasol, ac yn methu â hunan-ynysu pan mae ganddynt symptomau".

Ddydd Sadwrn, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn "bryderus" am glwstwr yn ardal Gwent, a chyswllt gyda phobl o ardal Caerffili cyn y mesurau clo yno.

Dywedodd: "Rhaid i ni ddeall yn iawn beth sy'n digwydd yna."