Â鶹ԼÅÄ

Hawl i ddwy aelwyd ffurfio 'cartref estynedig' o ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
Nain a wyresFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd dau gartref yng Nghymru yn gallu ffurfio "un cartref estynedig" a chwrdd â'i gilydd yn eu cartrefi o ddydd Llun nesaf ymlaen, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fe fydd modd creu cyswllt gydag un cartref arall yn unig, ac nid oes modd newid hynny unwaith y bydd wedi'i ffurfio.

Bydd rheol "aros yn lleol" Llywodraeth Cymru yn cael ei ddiddymu ar yr un diwrnod - 6 Gorffennaf.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn ymwybodol bod pobl yn colli eu teuluoedd.

Daw yn dilyn trefniadau am "swigod cymdeithasol" mewn mannau eraill yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y trefniant yn galluogi i nifer o deuluoedd aduno am y tro cyntaf ers mis Mawrth

Dan y rheolau, pe bai unrhyw aelod o'r cartref estynedig yn datblygu symptomau Covid-19, byddai'n rhaid i'r ddau gartref hunan-ynysu.

Mae caniatâd i bobl yn y categori bregus i ffurfio cartref estynedig hefyd, ond rhybuddiodd Mr Drakeford y byddai hynny yn cynyddu'r risg o gael coronafeirws.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod modd aros dros nos hefyd yn y cartref estynedig.

'Penderfyniadau anodd'

"Bydd creu cartrefi estynedig yn galluogi i nifer o deuluoedd aduno am y tro cyntaf ers mis Mawrth," meddai Mr Drakeford yn y gynhadledd ddyddiol ddydd Llun.

"Bydd yn helpu nifer o rieni gyda gofal plant anffurfiol dros yr haf a bydd hefyd yn cefnogi'r rheiny sy'n gofalu am eraill."

Ond dywedodd Mr Drakeford bod y rheolau newydd yn golygu y bydd yn rhaid i bobl wneud "penderfyniadau anodd".

"Mewn rhai achosion, yn enwedig gyda theuluoedd mwy, bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd," meddai.

"Meddyliwch am y goblygiadau - os ydy unrhyw un yn y cartref estynedig yn mynd yn sâl, bydd yn rhaid i bawb hunan-ynysu am 14 diwrnod."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford y cyhoeddiad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun

Pan ofynnwyd iddo a oedd newid y cyfyngiadau yn golygu na fydd y llywodraeth yn gallu darganfod achos y profion positif, dywedodd Mr Drakeford y bydd "modd gwneud y cysylltiadau rhwng yr achos a'r effaith os bydd achosion yn cynyddu o ganlyniad i'r newidiadau sydd wedi eu cyflwyno".

"Mae cyflwyno newidiadau o ddydd Llun i ddydd Llun yn ddoeth a dyna pam mae gennym ni bob hyder y gallwn ddarganfod y cysylltiad rhwng achos ag effaith," meddai.

"Rydym yn gwneud y newidiadau yn seiliedig ar gyngor a'r cyngor yw bod y camau hyn yn rhesymol a ni ddylen nhw arwain at gynnydd yn nifer yr achosion coronafeirws."

Bydd canllawiau pellach ar y cynllun yn cael eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos.