Cyngor Caerdydd yn bygwth cau clwb oedd â chiwiau mawr

Ffynhonnell y llun, Ian Cottrell

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ian Cottrell ei fod "wedi synnu" ar y diffyg cadw pellter tu allan i Coyote Ugly

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud ei fod yn bwriadu gweithredu yn erbyn clwb nos ar ôl i fideo ddangos torfeydd o bobl yn ciwio tu allan.

Dywedodd Ian Cottrell, wnaeth recordio'r fideo toc wedi hanner nos fore Sadwrn, ei fod "wedi synnu" ar y diffyg cadw pellter tu allan i Coyote Ugly.

Ond mae'r clwb ar Heol Eglwys Fair yn mynnu ei fod yn cydymffurfio â rheolau ymbellhau cymdeithasol ac yn gwrthod mynediad i unrhyw grwpiau mawr.

Dywedodd Mr Cottrell ei fod wedi gofyn i heddweision pam nad oedden nhw'n gweithredu i atal y grwpiau rhag casglu, a'u bod nhw wedi dweud mai mater i'r clwb oedd hynny.

Ond dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi siarad â'r staff nos Wener a'u bod wedi bod yno eto ddydd Sadwrn "er mwyn ceisio atal problemau o'r fath heno ac yn y dyfodol".

'Annerbyniol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd y bydd swyddogion yn ymweld â'r safle ddydd Sadwrn "i drafod y golygfeydd a welwyd neithiwr".

"Mae'r cyngor yn bwriadu defnyddio'r lluniau o neithiwr gyda golwg i weithredu yn erbyn y lleoliad am dorri mesurau iechyd a diogelwch Covid-19 Llywodraeth Cymru," meddai.

"Cyfrifoldeb y busnes yw sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol o ddau fetr yn digwydd tu fewn a thu allan i'r lleoliad a thra bod pobl yn ciwio i gael mynediad.

"Mae golygfeydd fel hyn yn annerbyniol ac os nad oes gwelliannau brys yn cael eu gwneud fe allai'r cyngor gau'r safle."

Ffynhonnell y llun, Ian Cottrell

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y cyngor mai cyfrifoldeb y busnes yw sicrhau bod pobl yn cadw pellter tra'n ciwio i gael mynediad

Dywedodd Coyote Ugly eu bod yn "ofalus iawn" i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r holl ganllawiau.

"Yn hwyr yn y nos ry'n ni wedi bod yn cael grwpiau mawr yn cyrraedd, o wahanol gartrefi, ac ry'n ni'n gwrthod mynediad i'r rheiny," meddai Sean McMahon o'r clwb.

"Mae arwyddion mawr ar y tu mewn a'r tu allan yn egluro'r rheolau ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol."

'Atgoffa o'u cyfrifoldebau'

Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad bod ei swyddogion yn "trafod, annog ac egluro deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a gorfodi ble fo hynny ei angen a'i fod yn briodol".

Ychwanegodd bod y fideo "ddim yn dangos y gwir alw sydd ar ein swyddogion, sy'n gweithio'n ddiflino i gadw ymwelwyr â'r ardal brysur yn ddiogel".

"Mae gan safleoedd trwyddedig gyfrifoldeb i gadw at fesurau Llywodraeth Cymru, a ry'n ni a'n partneriaid yn gweithio'n agos gyda lleoliadau o'r fath i'w hatgoffa o'u cyfrifoldebau," meddai'r datganiad

"Yn groes i'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan y fideo, fe wnaeth ein swyddogion drafod gyda staff y lleoliad nos Wener, ac mae swyddogion wedi bod yno eto heddiw er mwyn ceisio atal problemau o'r fath heno ac yn y dyfodol."

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod eu hymchwil yn "dangos bod diffyg cadw pellter cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif o bobl rhwng 20 a 30 oed, wedi arwain at wasgariad y feirws i grwpiau eraill".

"Byddwn yn gwneud apêl uniongyrchol i bobl ifanc gofio, hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo na fyddan nhw'n cael eu heffeithio'n wael gan Covid-19 pe baen nhw'n cael prawf positif, pe byddan nhw'n ei basio ymlaen at ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr mwy bregus fe allai fod yn ddifrifol iawn, neu hyd yn oed yn farwol," meddai eu datganiad.