Â鶹ԼÅÄ

Mwy o gymdeithasu wrth lacio'r cyfyngiadau'n bellach

  • Cyhoeddwyd
Un o strydoedd CaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae pobl wedi bod yn siarad am eu cynnwrf a'u pryderon ynglŷn â chymdeithasu eto wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ymhellach ddydd Llun.

Gall grwpiau o bobl hyd at 30 gyfarfod nawr tu allan ac fe fydd nifer o blant ifanc yn gallu chwarae gyda'i ffrindiau am y tro cyntaf ers i'r cyfnod clo gychwyn.

Bydd tafarndai, bwytai a chaffis hefyd yn gallu gweini i bobl tu fewn a bydd neuaddau bingo a bowlio dan do yn ogystal yn gallu ailagor.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford eisiau caniatau i bobl gymdeithasu "tra eu bod nhw'n gallu".

Dywedodd fod cyfyngiadau newydd yng ngogledd Lloegr wedi "gwneud iddo betruso" cyn cyhoeddi newidiadau i fywydau dyddiol pobl yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pobl yn gallu bwyta ac yfed tu fewn o ddydd Llun ymlaen

Tra bod pobl wedi gallu mwynhau peint neu bryd o fwyd tu allan ers Gorffennaf 13 mae nifer o dafarndai yn agor eu drysau am y tro cyntaf ddydd Llun gan gynnwys rhai cwmniau Brains a Wetherspoons.

Ond mae disgwyl i'r profiad fod yn wahanol gyda nifer cyfyngedig yn gallu eistedd tu fewn, byrddau yn bell o'i gilydd a nifer yn defnyddio apiau i archebu diodydd.

Fel dydd Nadolig

Ond i Sian Fox o Foxy's Deli ym Mhenarth mae'r hawl i ailagor tu fewn unwaith eto yn teimlo "fel diwrnod Nadolig".

"Mae wedi bod yn bedwar mis od od iawn i ni," meddai yn fyw o'i chaffi ar raglen y Post Cyntaf.

"Ond dy'n ni ddim wedi cau o gwbl, ni 'di neud pethe gwahanol. Heddi' ma bookings wedi dod mewn dros y penwythnos a ni'n barod iawn i groesawu pobl mewn."

Disgrifiad o’r llun,

Sian Fox yn gwneud coffi ar fore cyntaf ailagor llawn wedi dechrau'r cyfnod clo

Mae'r Deli wedi cyflwyno newidiadau yn cynnwys gorsafoedd hylendid, ac mae'r staff wedi bod yn gwisgo offer gwarchod personol wrth weini tu fas.

Fydd y caffi ddim yn gallu croesawu cymaint o gwsmeriaid tu fewn ag o'r blaen - dim ond eu hanner nhw - ond mae Sian Fox yn dweud bod pobl yr ardal wedi dal ati i gefnogi'r Deli drwy'r cyfnod clo a bod y cyhoedd yn dechrau magu mwy o hyder mewn mannau cyhoeddus.

"Mae'r cefnogaeth o'r ardal hyn, wel dwy ddim yn gallu credu mor garedig mae pobl wedi bod."

Canslo priodas

Roedd merch Hayley Lewis sy'n rhedeg tafarn y Wern Inn ym Mhlasmarl, Abertawe newydd fod yn ffitio ei gwisg briodas pan ddaeth y clo mawr ym mis Mawrth.

O fewn oriau cafodd ei phriodas ei chanslo a cafodd drysau'r dafarn eu cau am gyfnod amhenodol.

Penderfynodd y dafarnwraig wario arian y briodas ar ail-wneud yr ardd gwrw a phan ail-agorodd ar gyfer yfed tu allan ar Orffennaf 13 roedd cwsmeriaid yn aros y tu allan yn y glaw ers 09:30 y bore.

Ffynhonnell y llun, Hayley Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hayley Lewis wedi bod yn brysur ers agor yr ardd gwrw

Mae hi wedi bod fel tân gwyllt arni bob diwrnod ers hynny ac mae'n gorfod gwrthod mynediad i lawer oherwydd rheolau pellter cymdeithasol.

Mae hi nawr yn betrusgar ynglÅ·n ag agor tu mewn er ei bod wedi ceisio gwneud popeth i gadw at y rheolau.

"Mae'n anodd iawn," meddai, "mae pobol mor falch o fynd mas a hwythe wedi bod yn gaeth i'r tÅ· am bron bedwar mis a nawr maen nhw mor falch o weld ffrindie a chael sgwrs."

Ail agor y Nant

Busnes arall fydd yn dechrau ailagor rhai o'u hadnoddau yw Nant Gwrtheyrn.

Dywedodd Mair Saunders, rheolwr cyffredinol Nant Gwrtheyrn: "Rydym yn falch iawn o gael dweud y bydd y caffi - Caffi Meinir - yn ailagor o ddydd Llun ymlaen, rhwng 11:00 a 18:00, a bydd gennym 10 stafell wely a brecwast yn ailagor o 7 Awst," meddai, gan ychwanegu eu bod yn gwneud popeth o fewn y canllawiau diweddaraf.

Ar ddechrau'r cyfnod clo roedd hi'n anghyfreithlon i bobl oedd ddim yn byw yn yr un tŷ gyfarfod â'i gilydd.

Ond ers i'r rheolau lacio ym mis Mehefin mae unigolion sydd yn byw mewn dau dÅ· gwahanol wedi gallu cyfarfod tu allan.

Nawr gall grwpiau o hyd at 30 o gartrefi gwahanol gyfarfod tu allan ond rhaid iddyn nhw gadw at y pellter cymdeithasol o ddwy fetr.

Ffynhonnell y llun, Natasha
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfnod clo wedi bod yn anodd i blant Natasha

Mae hyn yn golygu y gall teuluoedd mawr a grwpiau o ffrindiau gymdeithasu ar yr un pryd gyda'i gilydd.

Ond 'dyw plant o dan 11 oed ddim yn gorfod cadw pellter cymdeithasol oddi wrth blant a rhieni eraill bellach.

Cyn y clo mawr roedd Natasha, o Gasnewydd yn mynd allan gyda'i phlant y rhan fwyaf o ddiwrnodau, i ddosbarthiadau neu i chwarae gyda phlant eraill neu i'r feithrinfa.

Roedd wythnosau cyntaf y cyfnod clo yn "sioc" meddai ac mae ei phlant, sydd yn un a thair oed, yn edrych ymlaen i weld ffrindiau eto.

Dim gwarantu

"Os oes yna unrhyw un yn cysgodi fydden ni ddim yn ymweld â nhw gyda'r plant achos alla i ddim gwarantu y bydden nhw yn cadw pellter saff.

"Ond o safbwynt pawb arall dwi ddim yn gweld problem cyfarfod o ddydd Llun. Dwi'n croesawu y rheolau newydd sydd yn caniatáu i blant gymysgu," meddai.

Dyw Charlotte, o Gaerdydd, sydd yn hyfforddi i fod yn nyrs ddim yn siŵr os yw'r amser yn iawn iddi hi gwrdd â ffrindiau gyda'i mab un oed, Sebastian.

Ffynhonnell y llun, Charlotte
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r amser "ddim yn iawn" i Sebastian gwrdd a phlant eraill meddai ei fam, Charlotte

Er ei bod wedi bod yn gweld teulu yn yr ardd mae'n dweud ei bod wedi teimlo'n "ddigon ynysig" yn methu gweld ffrindiau.

"Dwi'n gwybod bod nhw yn cael gwared o'r pellter cymdeithasol ar gyfer plant ond nid oedolion.

"Ond mae'n anodd iawn i oedolion gadw ar wahân tra bod y plant drws nesaf i'w gilydd, yn rhedeg i ffwrdd," meddai'r fam o Gaerdydd.

Mae aelodau corau a bandiau pres ar draws Cymru wedi bod yn ymarfer ar Zoom.

Corau a bandiau yn ymarfer ar-lein

Er ei bod yn bosib i grwpiau o 30 gyfarfod o ddydd Llun ymlaen does yna ddim arweiniad swyddogol i ddweud a all grwpiau cerdd wneud hynny.

Y pryder yw y gall aelodau corau a bandiau pres fod mewn mwy o beryg oherwydd y ffordd y mae'r feirws yn lledaenu.

Mae Band Pres y Cory, sy'n cael ei gyfri fel yr un gorau'n y byd, yn ymarfer ar gyfer pencampwriaeth ar-lein ar hyn o bryd.

Does ganddyn nhw ddim unrhyw gynlluniau i ailddechrau ymarferiadau wyneb yn wyneb ac maen nhw'n disgwyl am arweiniad.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dyw y feirws ddim yn mynd i ddiflannu erbyn y Nadolig medd Mark Drakeford

Ond plediodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ar i bawb gadw at y rheolau pellter cymdeithasol os ydyn nhw yn mynd i dafarndai neu yn cyfarfod fel grwpiau.

Mae'n dweud fod risg gwirioneddol y byddwn yn gweld achosion newydd o'r coronafeirws yn codi os na wnawn hynny.

"'Rydyn ni'n wynebu y tebygrwydd o weld y feirws yn dod yn ôl yn yr hydref a'r gaeaf. Fydd hwn ddim drosodd erbyn y Nadolig," meddai.

"Mae ganddon ni gyfrifoldeb parhaus o gadw Cymru yn ddiogel."