Gwynedd: Ymchwilio i gwynion cadw pellter mewn tafarn

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Roedd y cwynion yn ymwneud â thafarn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymchwiliad i gwynion bod rheolau cadw pellter wedi cael eu torri mewn tafarn yng Nghaernarfon.

Daeth y cwynion yn dilyn penwythnos Gŵyl y Banc.

Roedd fideo yn dangos grwpiau o bobl yn cymysgu o fewn y dafarn wedi ei rannu ar wefannau cymdeithasol.

Roedd neges ar dudalen Facebook y dafarn dros y penwythnos yn dweud yn glir: "Atgoffwn ein cwsmeriaid i gadw at y canllawiau 'Covid' tra yn yr adeilad. Diolch."

Ond dywedodd y cyngor bod "cwynion nad oedd rheolau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn".

I osgoi neges Facebook

Mae’n flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd yn cynnal ymchwiliad, a bod y "gwaith hwn yn parhau".

Mewn datganiad dywedodd: "Wrth i adeiladau trwyddedig ailagor yn llawn rydym wedi bod yn cynnal ymweliadau ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i wneud yn siwr fod deiliaid trwydded yn cadw at amodau eu trwydded a deddf Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru).

"Fel cyngor rydym yn gwerthfawrogi fod hwn yn amser ansicr i fusnesau ac mae ein swyddogion wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad.

"Mae'n bwysig cofio hefyd fod busnesau'n chwarae rôl hanfodol wrth helpu i rwystro lledaeniad coronafeirws a chadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Rydym yn parhau i gynnal ymweliadau ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau fod tai trwyddedig yn dilyn rheolau Coronafeirws yn llawn.

"Bydd rhai sy'n anwybyddu'r rheoliadau yn wynebu camau pellach, sy'n cynnwys yr hawl i gau tÅ· trwyddedig."

'Digon o ofod'

Dywedodd y perchennog Geoff Harvey ei fod yn cydweithio â'r cyngor, ac wedi rhannu lluniau CCTV sy'n dangos bod lle yn y dafarn dros y penwythnos.

Roedd wedi cael cyfarfod gyda'r cyngor cyn Gŵyl y Banc i drafod eu cynlluniau ac i gael arweiniad, ac roedd wedi cyflogi staff ychwanegol ar gyfer penwythnos prysur, meddai.

"Cyn y pandemig roedd gan y lleoliad gapasiti o 600 ar y llawr gwaelod a 300 ar y lefel uwch," meddai.

"Ar ôl cyfarfod yr awdurdodau perthnasol mi wnaethon ni gytuno i gael lle eistedd ar gyfer 250 er mwyn cydymffurfio â'r canllawiau cadw pellter.

"Mae lluniau CCTV yn dangos yn glir bod digon o ofod o gwmpas y grwpiau oedd yn eistedd yn y neuadd fawr.

"Mae cwsmeriaid yn codi i fynd i'r bar neu i'r tÅ· bach ac mae hyn yn sialens i unrhyw leoliad mawr gan fod pobl yn tueddu i lenwi bylchau 2 fetr wrth geisio pasio'i gilydd.

"Mi fyddai'n help mawr i leoliadau ddod dros y sialens yma pe bai'r canllawiau'n galw am fwlch o 1.5 metr."

Pwysleisiodd y dylai cwsmeriaid chwarae rhan trwy wneud yn siwr eu bod yn dilyn y rheolau.