Angen torri allyriadau'n 'ddyfnach a chyflymach'

Ffynhonnell y llun, PA

  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Rhaid i Gymru amlinellu cynlluniau ar gyfer toriadau "llawer dyfnach a chyflymach" i allyriadau nwyon tŷ gwydr os yw am chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o fynd i'r afael â newid hinsawdd, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru nad oedd cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru yn gyson â'i nod ar gyfer Cymru "sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang".

Mae'r adroddiad yn galw am waharddiad ar ffyrdd newydd, gweithfeydd pŵer nwy a llosgyddion yn ogystal â dod a hediadau wedi eu sybsideiddio rhwng Caerdydd ac Ynys Môn i ben.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyhoeddi cynllun sy'n "gwahodd trigolion a sefydliadau i lunio'r cynllun nesaf i leihau allyriadau dros Gymru gyfan".

Galw am fod yn fwy uchelgeisiol

Mae Cynllun Gweithredu Hinsawdd yr elusen amgylcheddol, sydd wedi cael ei weld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru yn unig, yn dweud y dylai gweinidogion geisio sicrhau toriad o 100% mewn nwyon sy'n cynhesu'r hinsawdd - a elwir yn darged sero net - ymhell cyn y flwyddyn 2045.

Ar hyn o bryd, nod Llywodraeth Cymru yw gostyngiad o 95% erbyn 2050.

Mae hyn yn seiliedig ar gyngor gan y Pwyllgor annibynnol ar Newid Hinsawdd, sy'n dweud y byddai'n gyfraniad priodol i'r DU gyfan gan gyrraedd sero net erbyn yr un flwyddyn.

Ond dywedodd yr elusen ei bod am weld dull mwy gofalus er mwyn lleihau'r risg o gynhesu byd-eang.

Ffynhonnell y llun, AirTeamImages.com

Disgrifiad o'r llun, Cwmni Eastern Airways sy'n hedfan rhwng Caerdydd a'r Fali ar hyn o bryd

Byddai targed llymach hefyd yn ystyried allyriadau hanesyddol y DU ac yn decach i wledydd tlotach sydd ag economïau sydd dal i ddatblygu, meddai.

Er mwyn cyflawni'r nod mae am i'r llywodraeth osod rheol sy'n dweud na fydd yn buddsoddi mewn, na rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw seilwaith carbon uchel fel ffyrdd newydd, gweithfeydd pŵer nwy neu losgyddion.

Dylid gwahardd defnyddio ynni tanwydd ffosil ar unwaith ar gyfer pob cartref newydd, a dylai'r llywodraeth ddweud wrth gyrff cyhoeddus am rannu eu cynlluniau pensiwn oddi wrth gwmnïau sy'n ymwneud â glo, olew a nwy.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw'r cymorth ariannol a roddir i ddarparu hediadau rhwng Caerdydd a'r Fali yn cyd-fynd a thargedau newid hinsawdd.

Mae am weld cyllid i addasu a pharatoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd - fel llifogydd - wedi'i dargedu at gymunedau difreintiedig.

GDP yn 'fesur gwael o lwyddiant'

Dylid darparu digon o fannau gwyrdd o fewn pellter cerdded o bum munud i bob cartref - dylid ail bwrpasu meysydd parcio a chau ffyrdd i gyflawni hynny.

Mae hefyd am weld Cymru'n dilyn Seland Newydd wrth roi'r gorau i ddefnyddio twf GDP i fesur perfformiad economi'r wlad.

GDP yw cyfanswm gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir dros gyfnod o amser.

Yn ôl yr adroddiad mae'n "fesur hynod wael o lwyddiant" gan y gall arwain at lygru'r amgylchedd ac nad yw'n ystyried cyfraniad gweithwyr di-dâl, yn aml menywod sy'n gofalu am eraill.

Disgrifiad o'r llun, "Yn hanesyddol, mae Cymru wedi bod yn llygrwr mawr," medd Haf Elgar

Dywedodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: "Mae Cymru ar groesffordd hollbwysig yn ei hanes ac mae angen iddi fynd i'r afael a nifer o argyfyngau ar hyn o bryd - adferiad Covid-19, yr hinsawdd ac argyfyngau ecolegol ac anghydraddoldebau parhaus yn ein cenedl.

"Mae'r Cynllun Gweithredu Hinsawdd hwn yn edrych ar yr hyn y gall Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfyngau lluosog hyn a gwella safonau byw i bobl a'r blaned.

"Mae angen i ni osod targedau sy'n cyd-fynd â chytundeb rhyngwladol Paris ar frys fel nad ydym yn mynd dros 1.5C o gynhesu byd-eang.

"Yn hanesyddol, mae Cymru wedi bod yn llygrwr mawr ac wedi cynhyrchu llawer o allyriadau ac mae angen i ni wneud ein cyfran deg yn awr a lleihau ein hallyriadau'n gyflym iawn."

'Fy nghadw i lan yn y nos'

Dywedodd Neil Lewis, rheolwr menter gymdeithasol Ynni Sir Gaerfyrddin sy'n helpu i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol ei fod yn cytuno ag argymhellion yr adroddiad, gan ychwanegu bod y bygythiad a achosir gan newid hinsawdd "yn fy nghadw i lan yn y nos".

"Mae'r newidiadau dyn ni wedi'u gwneud dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn rhy ychydig, yn rhy araf ac mae gwir angen i ni weithredu'n llawer cyflymach ac mewn ffordd lawer symlach ac effeithiol," meddai.

Honnodd mai rhan o'r broblem oedd mai pwerau cyfyngedig sydd gan Gymru dros ynni, sy'n cwtogi ar allu Llywodraeth Cymru i gymryd camau sylweddol.

Galw am fwy o drydaneiddio

Ond dywedodd yr Athro Stuart Cole, athro trafnidiaeth emeritws ym Mhrifysgol De Cymru ei fod yn teimlo bod rhai o gynigion yr adroddiad yn mynd yn rhy bell.

"Yn sail i unrhyw economi mae system drafnidiaeth effeithlon iawn ac yn anffodus mae gan hynny rhai anfanteision amgylcheddol o bryd i'w gilydd," meddai.

"Ond rwy'n credu ein bod wedi gweld cydbwysedd rhesymol gan Lywodraeth Cymru wrth ganslo ffordd liniaru'r M4 a oedd yn mynd i fod yn drychineb amgylcheddol yn Lefelau Gwent ac yn gwario £800m ar wasanaethau trên newydd wedi eu trydaneiddio o'r cymoedd i Gaerdydd."

Dywedodd yr hoffai yn awr weld y rhwydwaith rheilffyrdd yn cael ei drydaneiddio ymhellach i annog pobl allan o'u ceir, a gweithio yn cael ei wneud i dorri'r amser teithio o Gaerdydd i Gyffordd Llandudno - a fyddai'n arwain at lai o alw am deithiau hedfan rhwng y gogledd a'r de.

'Ymgynghori dros y flwyddyn nesaf'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r cyfraniad yma gan Gyfeillion y Ddaear Cymru sy'n tanlinellu llawer o'r blaenoriaethau pwysicaf i gyrraedd Cymru sy'n fwy gwyrdd a chyfartal wrth i ni adfer o effaith y pandemig.

"Yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi ein cynllun i wahodd trigolion a sefydliadau i lunio'r cynllun nesaf i leihau allyriadau dros Gymru gyfan.

"Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn ymgynghori ar faterion polisi penodol megis trafnidiaeth, adeiladau, amaethyddiaeth, ansawdd aer a rheoli ein hadnoddau dŵr er mwyn sicrhau bod y polisi yn cytuno gyda'r dull o gyrraedd sero net o allyriadau ac adfer iechyd amgylchedd naturiol Cymru."