Â鶹ԼÅÄ

Cannoedd mewn protest newid hinsawdd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Protest Extinction Rebellion

Mae cannoedd o brotestwyr ymgyrch Extinction Rebellion wedi ymgynnull ym Mharc Bute cyn gorymdaith i swyddfeydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym Mae Caerdydd.

Daw ar ddechrau wythnos o weithredu gan y grŵp ledled Prydain i alw am weithredu cyflymach i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Eu prif ofyn yw i Lywodraeth y DU gyflwyno Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, gyda thargedau llymach ar gyfer lleihau allyriadau a diogelu natur tra'n cadw'r cyhoedd yn rhan o'r broses.

Yn ystod areithiau cyn yr orymdaith rhybuddiwyd protestwyr i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd, i wisgo masgiau ac i lanhau eu dwylo'n rheolaidd.Mae swyddogion yr heddlu wedi'u gosod o amgylch y dorf yn cadw golwg ar y digwyddiad.