Â鶹ԼÅÄ

Lluniau: Pwy yw'r protestwyr yng nghanol Caerdydd?

  • Cyhoeddwyd

Wythnos yma mae canol Caerdydd wedi ei drawsnewid wrth i'r grŵp protest Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) ymgartrefu o flaen y Castell a ger Neuadd y Ddinas.

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio y bydd ffyrdd ar gau o ganlyniad i'r brotest.

Ond pwy yw'r protestwyr a beth yw eu gofynion? Dyma rywfaint o'r golygfeydd a'r sylwadau gan y grŵp ar y strydoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Cwch y protestwyr o flaen mynedfa Castell Caerdydd

Disgrifiad o’r llun,

Chris Thompson o Gaerdydd: "Rydyn ni yma achos bod ni eisiau i wleidyddion weithredu. Rydyn ni'n hapus iawn bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dweud bod argyfwng newid hinsawdd, ac rydyn ni eisiau iddyn nhw weithio heibio'r siarad a gwneud penderfyniadau i wneud siŵr bod ni'n osgoi trychineb hinsawdd ac yn gallu parhau gyda bioamrywiaeth"

Disgrifiad o’r llun,

Mae dau gwch hefyd ar y gwair o flaen Neuadd y Ddinas

Disgrifiad o’r llun,

Hannah Willwood o Lanberis yn canu. "Cysylltodd rhywun efo fi i weld a fyswn i'n hoffi cymryd rhan fel perfformiwr cerddoriaeth neu adloniant. Os wyt ti isio cymryd rhan, cei gymryd rhan. Does dim arweinydd fel petai. Mae pawb yn gwneud be' maen nhw'n gallu ei wneud"

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y protestwyr yn sydyn iawn i symud o'r ffordd ar gyfer unrhyw argyfwng gan y gwasanaethau brys

Disgrifiad o’r llun,

Hannah, Cathy a Hele."Fy nhro cynta' i yma. Mae'n hyfryd gweld pobl sy'n pasio yn cefnogi. Mae pobl mor gefnogol a phositif. Maen nhw eisiau rhywbeth fel hyn ac maen nhw'n ddiolchgar ein bod ni wrthi." - Cathy o Groesoswallt

Disgrifiad o’r llun,

Ella, un o'r protestwyr sy'n sownd i'r cwch

Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Abbott o'r Waun yn y gogledd ddwyrain: "Dwi'n 73 ac yma'n protestio gyda phobl o bob oed. Dwi'n poeni am ddyfodol y blaned - mae'r wyddoniaeth yn dangos yn glir y ffordd rydyn yn mynd. Mae yna gamau sydd rhaid eu cymryd ac mae'n rhaid i ni weithredu ar frys"

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai protestwyr yn dod am y diwrnod ac eraill yn gwersylla yn y caeau cyfagos

Ffynhonnell y llun, Neuadd ddinas
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r pebyll ar y gwair ger Neuadd y Ddinas

Disgrifiad o’r llun,

Stondin wybodaeth tu allan i Neuadd y Ddinas, lle mae Tamar Williams o Gaerdydd yn gwirfoddoli ers deuddydd: "Be 'ni'n 'neud yw croesawu pobl a sicrhau fod pobl sy'n cerdded heibio gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Mae lot o bobl sy'n mynd heibio eisiau gwybod be sy'n mynd ymlaen - fel chi'n gallu gweld mae lot o bobl yn graddio heddiw felly mae mix go iawn o bobl fan hyn - gyd fi'n trio gwneud yw bod mor agored â phosib a dangos bod ni'n bobl groesawgar a bod y brotest ddim yn unrhyw beth i'w ofni. Ni fan hyn er mwyn trafod gymaint â phosib ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl"

Disgrifiad o’r llun,

Philippa Gibson, o Bontgarreg ger Llangrannog, yn rhoi pamffledi gwybodaeth i gerddwyr. "Des i i wybod am y mudiad drwy Facebook ac ro'n i'n adnabod rhywun oedd yn rhan o'r un yn Llundain ym mis Ebrill. Mae'r trefnwyr wedi creu argraff ardderchog ac mae llawer o feddwl wedi mynd i mewn i'r hyn maen nhw'n ei wneud"

Disgrifiad o’r llun,

Pam Williams o Lanidloes: "Dwi wedi bod i'r protestiadau ers y dechrau. I ddechrau roeddwn i'n mynd i'r cyfarfodydd ym Machynlleth, ac yna fe benderfynon ni greu grŵp newydd yn Llanidloes. Mae angen lledaenu'r neges bod amser yn brin i ni weithredu. Rhaid pwysleisio hefyd ein bod ni'n mwynhau ein hunain ar y protestiadau - mae cael hwyl yn bwysig, fel mae'r ochr wleidyddol"

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gantorion a chomediwyr wedi bod yn perfformio o flaen cychod y brotest

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r protestwyr sydd wedi clymu eu hunain i'r cwch ger y castell

Disgrifiad o’r llun,

Prif neges y mae'r protestrwyr yn ei harddel: 'Gweithredwch Nawr!"