Â鶹ԼÅÄ

Gwersylla anghyfreithlon yn 'niweidio ein hamgylchedd'

  • Cyhoeddwyd
Faniau

Mae'r cynnydd "sylweddol a brawychus" mewn gwersylla anghyfreithlon yng Nghymru yn "niweidio ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt, y sector twristiaeth a'n cymunedau lleol" yn ôl awdurdodau amgylcheddol.

Ar benwythnos gŵyl y banc, mae llythyr agored yn tynnu sylw at y niwed y gall gwersylla anghyfreithlon ei wneud, ac yn annog gwersyllwyr i ddod o hyd i safleoedd swyddogol ac archebu eu lle ymlaen llaw.

Mae gwersylla anghyfreithlon - gosod pabell neu garafán ar dir heb ganiatâd - wedi bod ar gynnydd dros yr haf, ac mae'r awdurdodau'n dweud ei fod yn achosi difrod amgylcheddol a sbwriel, yn ogystal â chreu pryderon o ran iechyd y cyhoedd.

Daw wrth i wirfoddolwyr ddweud bod y pwysau ar amgylchedd Eryri yn sgil niferoedd uchel o ymwelwyr wedi bod yn "aruthrol" yn ddiweddar.

'Ymddygiad difeddwl'

Mae'r llythyr agored yn dweud bod gwersylla anghyfreithlon wedi cynyddu'r benodol o fewn parciau cenedlaethol y wlad, coetiroedd a chefn gwlad, wrth i'r coronafeirws olygu bod mwy o bobl yn ymweld â lleoliadau o fewn y DU.

"Heblaw am y ffaith ei fod yn drosedd, mae'r cynnydd mewn achosion o wersylla anghyfreithlon yn niweidio ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt, y sector twristiaeth a'n cymunedau lleol sydd i gyd yn adfer yn sgil effeithiau'r pandemig," meddai'r llythyr.

"Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu, felly mae angen i bawb fod yn wyliadwrus o hyd a Chadw Cymru'n Ddiogel drwy ddilyn canllawiau'r llywodraeth ar olchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol.

"Gall gwersylla anghyfreithlon ei gwneud hi'n anodd dilyn y canllawiau hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid archebu lle parcio o flaen llaw ym Mhen-y-Pass, Eryri, yn dilyn parcio peryglus yn yr ardal

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, holl awdurdodau parciau cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac RSPB Cymru wedi arwyddo'r llythyr agored.

Bydd swyddogion yn patrolio'r parciau cenedlaethol dros y penwythnos, a bydd cosbau'n cael eu rhoi i'r "rhai sy'n diystyru'r rheolau ac yn parcio dros nos".

Ychwanegodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tegryn Jones: "Mae ymddygiad difeddwl ambell un yn bygwth difetha mwynhad eraill, ac mae'n peri pryder i'r cymunedau lleol sy'n gorfod glanhau'r llanastr a gaiff ei adael gan y rhai sy'n gwersylla heb ganiatâd."

'Amarch llwyr'

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, ei bod am i bobl fwynhau'r awyr agored "yn ddiogel, yn gyfreithlon a heb niweidio'r amgylchedd".

"Rydyn ni'n gwybod bod y cyfnod clo wedi bod yn galed ar bawb ac er ein bod ni i gyd yn awyddus i ddychwelyd i fwynhau'r awyr agored rydyn ni a'n partneriaid yn gofyn i hyn beidio â digwydd ar draul natur ac eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Lleiafrif o ymwelwyr sy'n gyfrifol am y trafferthion yn ardal Eryri, meddai Catrin Glyn

Yn Eryri, bydd gwirfoddolwyr allan yn casglu sbwriel ac yn rhoi cyngor i ymwelwyr a cherddwyr dros y penwythnos.

Wedi trafferthion parcio mewn llefydd fel Pen-y-Pass yn ddiweddar, mae'n rhaid i ymwelwyr archebu lleoedd parcio o flaen llaw erbyn hyn.

Yn ôl Catrin Glyn o Bartneriaeth yr Wyddfa, lleiafrif o ymwelwyr sy'n achosi trafferthion.

"Mae'r pwysau dros y cyfnod yma wedi bod yn eithriadol ar yr ardal a d'eud y lleia'.

"Mae 'na chydig iawn o bobl, ac mae o'n dorcalonnus i dd'eud, wedi dangos amarch llwyr tuag at yr ardal a'r cynefinoedd, a 'di achosi lot o waith i ni a'n partneriaid ni ac yn achosi lot o heriau.

"Ond rhan bach ydyn nhw o fobl, ond mae'r effeithiau 'di bod yn drwm iawn o ran sbwriel, campio anghymdeithasol a diffyg parch yn gyffredinol."