Â鶹ԼÅÄ

Ystyried mesurau pellach i reoli faniau gwersylla

  • Cyhoeddwyd
Faniau gwersylla

Mae cartrefi symudol a charafanau yn achosi problemau ar hyd arfordir Cymru, yn ôl un cynghorydd yn y canolbarth.

Yn Aberystwyth, mae cwynion am ddwsinau o faniau a chartrefi modur sy'n parcio'n anghyfreithlon ar y prom.

Mae gwaredu gwastraff mewn toiledau cyhoeddus, ar y traeth ac ar y stryd hefyd yn achosi pryderon.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae mesurau rheoli ychwanegol yn cael eu hystyried.

Mae'r Cynghorydd Endaf Edwards yn teimlo bod y cerbydau'n difetha'r economi leol ac mae angen eu gwahardd yn llwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bedwar o lefydd pwrpasol ar gyfer carafanau a faniau gwersylla yn Aberystwyth

Ar hyn o bryd, mae pedwar lle parcio carafanau dynodedig yn Aberystwyth ond mae sôn bod hyd at 50 wedi parcio yno ar un adeg.

Mae'r cerbydau yn parcio'n agos at ei gilydd, yn bell dros balmentydd ac yn cymryd gormod o lefydd parcio i geir fyddai'n ymweld â'r dref.

"Rydw i wedi gweld 29 yno fy hun, ond rydw i wedi clywed y gall hyd at 50 barcio yno dros nos," meddai'r Cyngorydd Edwards,

"Dim ond pedwar lle dynodedig sydd yma efo ni.

"Maen nhw'n culhau palmentydd ac yn niweidiol i'r economi leol oherwydd bod parcio eisoes yn brin yma.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Endaf Edwards yn anfodlon gyda'r sefyllfa fel ag y mae

"Mae faniau gwersylla a charafanau hefyd yn rhwystro ardaloedd parcio'r RNLI."

Ychwanegodd Mr Edwards "eu bod yn cael gwared ar eu gwastraff budr yn y toiledau cyhoeddus ac yng nghwteri'r ffordd.

"Nid yw'r system garthffosiaeth wedi'i chynllunio i ymdopi â'r cemegau sydd yn y cerbydau hyn.

"Nid yw'n dda i'r amgylchedd nac i'n hymdrechion ni i gael y Faner Las yn ôl ar y traeth hwn."

'Llanast anghredadwy'

Mae Cyngor Sir Penfro wedi bod yn cynnal patrolau yn gynnar y bore a dosbarthu dirwyon o hyd at £70 er mwyn taclo problem 'gwersylla gwyllt'.

Mae Gwynedd hefyd wedi gweld cynnydd gyda'r awdurdod lleol yn gofyn i ymwelwyr ddefnyddio safleoedd gwersylla a charafanau trwyddedig yn unig.

Mae Ruth Davies yn cerdded ar hyd y prom yn Aberystwyth bob dydd.

"Mae yna ormod o faniau gwersylla ac mae'r llanast maen nhw'n ei adael yn anghredadwy," meddai.

"Maen nhw'n defnyddio'r prom fel toiled. Mae'r drewdod yn troi arno chi ac ma fe'n warthus i weud y gwir."

Mewn datganiad, mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud fod trefniadau ar gyfer defnyddio meysydd parcio "yn destun monitro ac adolygu parhaus" gyda'r Cyngor yn ceisio darparu "dull cytbwys" sy'n cynnig lefel o ddarpariaeth ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr.

"Mae'r cyngor yn ymwybodol o achosion unigol o ymddygiad anystyriol a bydd yn ystyried codi arwyddion ychwanegol yn gofyn i ymwelwyr barcio'n ystyriol ac i fod yn gyfrifol yn ystod yr amser mae nhw yma.

"Os bydd problemau'n parhau bydd mesurau ychwanegol yn cael eu hystyried ac yn cael eu cymryd."