Staff Cyngor Gwynedd i hunan-ynysu wedi noson allan

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae'r digwyddiad wedi creu "costau ychwanegol i'r cyngor", meddai Dilwyn Williams

Mae rhai aelodau o staff allweddol Cyngor Gwynedd yn hunan-ynysu ar ôl i weithiwr brofi'n bositif am Covid-19 yn dilyn noson allan ar fws mini.

Mewn neges at staff, dywed prif weithredwr y cyngor fod ymddygiad y criw yn "gwbl annerbyniol".

Nid yw'n glir faint o aelodau staff sydd wedi gorfod hunan-ynysu, na chwaith ym mha adran y maen nhw'n gweithio.

Bydd yn rhaid i'r gweithwyr dan sylw hunan-ynysu am bythefnos.

Dywed yr awdurdod lleol na chafodd y digwyddiad "unrhyw effaith ar allu'r cyngor i ddarparu gwasanaethau allweddol i'n cwsmeriaid".

'Goblygiadau i'r unigolion'

"Dwi'n anfon y bwletin yma atoch er mwyn amlygu mater difrifol sydd wedi codi o ran ymddygiad staff ac i ofyn am eich cydweithrediad i sicrhau nad yw'n digwydd eto," meddai Dilwyn Williams yn y neges.

"Yn ddiweddar, cefais wybod am achos lle bu i staff oedd yn gweithio gyda'i gilydd mewn uned o fewn y cyngor benderfynu mynd am noson allan gyda'i gilydd mewn bws mini.

"Yn sgil hynny, mae un ohonynt wedi profi'n bositif am Covid-19 ac oherwydd hynny mae pob un ohonynt wedi gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod gan greu perygl i ni fethu parhau gyda'r gwasanaeth allweddol yr oeddent yn ei gyflawni gan greu costau ychwanegol i'r cyngor i fedru sicrhau parhad y gwasanaeth.

"Mae angen i ni fod yn glir bod ymddygiad o'r fath, sydd yn hollol groes i'r rheolau pellhau cymdeithasol, yn gwbl annerbyniol, ac yn amlwg fe fydd yna oblygiadau yn deillio i'r unigolion yma."

Er ei fod yn cydnabod fod y "cyfnod clo wedi bod yn anodd i bawb, a bod yr angen i gymdeithasu yn gryf", dywedodd Mr Williams ei bod hi'n "hanfodol ein bod i gyd yn cadw at y rheolau o hyd".

Ychwanegodd: "Nid yw'r haint wedi diflannu ac mae yna berygl ein bod am weld cynnydd dros yr wythnosau nesaf."

Dywedodd ei fod yn "erfyn" ar staff y cyngor i gadw at y rheolau pellhau cymdeithasol ac i gydymffurfio gyda unrhyw gyfarwyddyd i hunan-ynysu yn sgil y digwyddiad.

'Mater mewnol'

Mewn ymateb i gais Cymru Fyw am sylw, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Drwy gydol cyfnod argyfwng Covid, mae'r cyngor wedi bod yn anfon amrediad o negeseuon i staff ynghylch trefniadau gwaith newydd a'r angen i gadw at reolau Covid cenedlaethol er mwyn cadw eu hunain, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yn ddiogel.

"Mewn bwletin staff diweddar gallwn gadarnhau y bu i brif weithredwr y cyngor ddwyn sylw at un achos penodol ble torrwyd y rheolau hyn a thanlinellu beth allai sgil-effeithiau ymddygiad o'r fath fod.

"Gan mai mater Adnoddau Dynol mewnol yw hyn, ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach.

"Ond gallwn gadarnhau na chafodd y digwyddiad unrhyw effaith ar allu'r cyngor i ddarparu gwasanaethau allweddol i'n cwsmeriaid."