Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Cynghorau i dderbyn arian ychwanegol

  • Cyhoeddwyd
Arwydd cadw pellter
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o lanhau ysgolion yn drwyadl yn golygu costau uwch i awdurdodau lleol

Bydd dros £260m ar gael i awdurdodau lleol i'w helpu i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae'n dod â swm y gefnogaeth i gynghorau yn ystod y pandemig coronafeirws i bron i hanner biliwn o bunnoedd.

Y gobaith yw y bydd yn helpu i dalu costau uwch, i ddigolledu bylchau mewn incwm ac ariannu glanhau ychwanegol mewn ysgolion.

Daw fel rhan o baratoadau ar gyfer ail don posib o'r feirws.

Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu drwy broses hawlio.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: "Mae ein hawdurdodau lleol wedi ymateb yn ardderchog i heriau Covid-19, ond rydym yn cydnabod yr effaith ariannol y mae hyn wedi'i chael arnynt."

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: "Mae cynghorau lleol wedi bod wrth wraidd ein hymateb i Covid-19.

"Mae'r pecyn newydd hwn o gymorth ariannol yn cydnabod graddfa'r heriau digynsail sy'n wynebu awdurdodau ledled Cymru ac yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i barhau i ymateb i'r argyfwng a pharatoi ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol."