Cyfres 'I'm A Celebrity...' ITV yn dod i Abergele

Fe fydd cyfres nesaf y rhaglen deledu boblogaidd 'I'm A Celebrity... Get Me Out of Here!' yn cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ar gyrion Abergele yn Sir Conwy.

Hon fydd 20fed cyfres rhaglen ITV sydd yn cael ei chyflwyno gan y deuawd Ant & Dec.

Awstralia oedd lleoliad y rhaglen am flynyddoedd, ond eleni fe fydd yr enwogion, sydd yn cymryd rhan mewn treialon heriol fel rhan o'r sioe, yn dod i Gymru.

Dywedodd Dr Mark Baker, cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych: "Rwyf wrth fy modd fod 'I'm A Celebrity...' wedi dewis Castell Gwrych fel ei leoliad Prydeinig ar gyfer cyfres 2020.

"Mae Castell Gwrych yn adeilad rhestredig Gradd I hyfryd o'r 19eg ganrif ac yn ymweliad sydd rhaid ei weld i dwristiaid sydd yn dod i Gymru.

"Bydd cael 'I'm A Celebrity...' yma yn gymorth mawr i gefnogi adferiad parhaus Castell Gwrych ynghyd a rhoi hwb economaidd sydd ei angen ar y rhanbarth."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru: "Rydym yn hynod o falch o groesawu cynhyrchiad mor fawr i Gymru, gan gynnig cyfle i arddangos rhan drawiadol o'r wlad i gynulleidfa sylweddol ar draws y DU.

"Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda'r tîm ar y cynhyrchiad hwn ac yn gobeithio gallu defnyddio'r cyfle yma i ddangos rhywfaint o'r hyn sydd gan ogledd Cymru i'w gynnig."

Esboniodd Richard Cowles, Cyfarwyddwr Adloniant ITV Studios, ei bod yn her dod o hyd i leoliad yn y DU wedi i jyngl Awstralia fod yn rhan annatod o'r gyfres.

"Tra bydd digon o newidiadau wrth i ni symud o New South Wales yn Awstralia i ogledd Cymru yn y DU, rydym wedi ein cyffroi yn arw i weld sut bydd modd addasu'r fformat a throi'r castell yn gartref newydd ar gyfer 20fed cyfres arbennig o 'I'm a Celebrity... Get Me Out of Here' yr hydref hwn."