Â鶹ԼÅÄ

Perchnogion Castell Gwrych yn derbyn cynnig i'w brynu

  • Cyhoeddwyd
Castell Gwrych

Mae perchnogion hen gastell ger yr A55 yn Sir Conwy wedi derbyn cynnig i brynu'r eiddo.

Roedd bwriad i werthu Castell Gwrych ger Abergele mewn arwerthiant ym Manceinion ddydd Iau gyda phris awgrymedig o dros £600,000, ond cafodd ei dynnu o'r rhestr dros nos.

Ar eu gwefan, dywedodd cwmni Pugh Auctions fod y castell ddim ar werth mwyach "wedi i gynnig gael ei dderbyn gan ein cleient, gyda'r cyfan yn ddibynnol ar gyfnewid cytundebau".

Does dim manylion hyd yma ynglŷn â'r prynwr, ond yn y gorffennol mae wedi apelio am gymorth y cyhoedd i brynu'r eiddo sy'n dyddio o'r 19eg Ganrif.

Mae gan yr ymddiriedolaeth a'r corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru brydles ar ran o'r safle.

Cafodd y castell ei brynu yn 2010 gan gwmni Edwards Property Management.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 2013 i gynllun gwerth £25m i gyda sba.

Cafodd y castell ei adeiladu rhwng 1812 a 1822 gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh fel cofeb i deulu ei fam - sef y Llwydiaid.