Gohirio taith y Llewod i Dde Affrica yn 2021 'yn bosib'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd cefnogwyr y Llewod yn gobeithio gallu teithio i Dde Affrica ym mis Gorffennaf 2021

Mae'n bosib y gall taith y Llewod i Dde Affrica y flwyddyn nesaf gael ei gohirio os na fydd cefnogwyr yn cael teithio yno, medd pennaeth rygbi'r Springboks.

Fis diwethaf fe gadarnhaodd y trefnwyr y byddai'r daith yn mynd yn ei blaen ym mis Gorffennaf 2021.

Ond fe ddywedodd prif weithredwr Rygbi De Affrica na fyddai'n gwneud synnwyr yn fasnachol pe na byddai cefnogwyr yn cael teithio oherwydd cyfyngiadau coronafeirws rhyngwladol.

"Mae 'na drafodaethau wedi bod i'w symud [i ddyddiad newydd]," meddai Jurie Roux.

"Ond ein cyngor teithio ydy y dylen ni fod yn ôl i'r arfer o ran teithio rhyngwladol erbyn Mehefin neu Orffennaf.

"Rydym ni'n monitro'r sefyllfa'n fisol."

Dywedodd llefarydd ar ran y Llewod: "Fel y cyhoeddwyd yn ddiweddar, rydym yn llwyr fwriadu i'r daith fynd yn ei blaen fel y trefnwyd, ond, fel y byddech yn disgwyl, mae Rygbi DA, ar y cyd â'r Llewod, yn cynllunio wrth gefn ar gyfer pob digwyddiad."

Mae modd cofrestru am docynnau o 2 Medi, gyda Roux yn dweud y bydd "mwyafrif y tocynnau" ar gyfer cefnogwyr De Affrica.

Ychwanegodd y byddai ad-daliadau llawn am docynnau a theithiau pecyn yn cael eu cynnig pe bai'r daith yn cael ei chanslo.

Taith y Llewod i Dde Affrica 2021

3 Gorffennaf - DHL Stormers (Stadiwm Cape Town)

7 Gorffennaf - Tîm gwâdd De Affrica (Stadiwm Nelson Mandela Bay, Port Elizabeth)

10 Gorffennaf - Cell C Sharks (Parc Jonsson Kings, Durban)

14 Gorffennaf - De Affrica 'A' (Stadiwm Mbombela, Nelspruit)

17 Gorffennaf - Vodacom Bulls (Loftus Versfeld, Pretoria)

24 Gorffennaf - Prawf cyntaf yn erbyn y Springboks (Soccer City, Johannesburg)

31 Gorffennaf - Ail brawf (Stadiwm Cape Town)

7 Awst - Trydydd prawf (Ellis Park, Johannesburg)