Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi manylion taith Y Llewod i Dde Affrica yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Kieran Read a Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyfartal oedd y gyfres yn 2017 rhwng Y Llewod a Seland Newydd

Bydd Y Llewod yn chwarae o flaen torf o bron i 90,000 yn Ne Affrica yng ngêm brawf gyntaf taith 2021 yn erbyn y pencampwyr byd.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn stadiwm Soccer City yn Soweto, Johannesburg - lleoliad rownd derfynol Cwpan y Byd pêl-droed yn 2010.

Bydd yr ail brawf yn Cape Town a'r un olaf yng nghartref ysbrydol y Springboks, Ellis Park.

Am y trydydd tro, cyn-hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, fydd yn arwain carfan Y Llewod.

Alan Phillips - cyn-reolwr y tîm cenedlaethol - yw cyfarwyddwr gweithrediadau'r Llewod, ac felly'n gyfrifol am drefniadau'r daith i Dde Affrica,

Wrth i'r daith gael ei chwtogi i wyth gêm yn hytrach na'r 10 arferol, bydd Y Llewod yn wynebu tri thîm o'r gystadleuaeth Super Rugby - y Stormers, y Sharks a'r Bulls - cyn y gemau prawf, a byddan nhw hefyd yn chwarae yn erbyn tîm gwadd a De Affrica 'A'.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Warren Gatland ei fod yn gwbl fodlon gydag amserlen y daith

Dywedodd Gatland bod hi'n hanfodol i sicrhau bod y tîm ar ei orau ar gyfer y gemau prawf, a'i fod "yn hyderus y bydd safon y gwrthwynebwyr yn yr wythnosau cyntaf yn ein paratoi i herio'r Springboks".

Mynnodd hefyd bod y tîm rheoli "yn gysurus iawn" y bydd tri o'r gemau, gan gynnwys dwy gêm brawf, yn cael eu chwarae ar dir uchel.

"Mae'r amserlen yn ein galluogi i ddechrau ar lefel y môr cyn cynefino ag amgylchedd unigryw chwarae ar uchder," meddai.

Ond bydd dim llawer o amser i'r garfan baratoi ar ddiwedd y tymor domestig gan fod y gêm gyntaf wythnos yn unig wedi gêm derfynol yr Uwchgynghrair Lloegr.

Roedd Gatland wedi apelio am ragor o amser paratoi yn dilyn taith 2017, a bu sôn am addasu amserlen gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a dod â thymor yr Uwchgynghrair i ben wythnos yn gynt na'r arfer, ond chafodd cynlluniau penodol mo'u cyflwyno.

Taith y Llewod i Dde Affrica 2021

3 Gorffennaf - DHL Stormers (Stadiwm Cape Town, yn Cape Town)

7 Gorffennaf - Tîm gwâdd De Affrica (Stadiwm Nelson Mandela Bay, Port Elizabeth)

10 Gorffennaf - Cell C Sharks (Parc Jonsson Kings, Durban)

14 Gorffennaf - De Affrica 'A' (Stadiwm Mbombela, Nelspruit)

17 Gorffennaf - Vodacom Bulls (Loftus Versfeld, Pretoria)

24 Gorffennaf - Prawf cyntaf yn erbyn y Springboks (Soccer City, Johannesburg)

31 Gorffennaf - Ail brawf (Stadiwm Cape Town)

7 August - Trydydd prawf (Ellis Park, Johannesburg)