Galw am dreialon llogi e-sgwteri ar draws Cymru

Mae'r rhai sydd o blaid defnyddio sgwteri trydan yn dweud y dylai cynghorau Cymru ganiatáu pobl i'w llogi.

Gan nad oes cymaint o ddewis trafnidiaeth gyhoeddus yn sgil coronafeirws, mae rhai yn dadlau y gallai sgwteri trydan lenwi'r bwlch.

Ond mae elusennau'n rhybuddio bod yn rhaid cymryd diogelwch pobl anabl i ystyriaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod trafodaethau am dreialon ar gyfer y sgwteri yn cael eu cynnal gyda llywodraeth San Steffan - ond bod angen gweld faint o ddiddordeb sydd gan awdurdodau lleol.

Ers mis mae llywodraeth San Steffan wedi dweud ei bod yn gyfreithlon i e-sgwteri fynd ar y ffordd ond dim ond mewn rhai ardaloedd mae modd eu llogi.

Byddai cwsmeriaid sy'n llogi sgwteri trydan angen trwydded lawn, trwydded dros dro neu drwydded moped cyn cael eu defnyddio.

Disgrifiad o'r llun, Mae cefnogwyr e-sgwteri yn dweud eu bod yn cynnig opsiwn arall am fod llai o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn sgil y coronafeirws

Mae GOiA yn fusnes yng Nghaerdydd sy'n siarad â chynghorau ar hyn o bryd gyda'r bwriad o fod y cwmni cyntaf i weithredu sgwteri i'w llogi yng Nghymru.

Mae ei riant gwmni yn gweithredu cwmni llogi ceir, ond maen nhw'n credu bod y pandemig wedi cyflymu'r angen am fath newydd o drafnidiaeth.

"Rwy'n credu nawr gyda chludiant cyhoeddus, mae'r capasiti wedi cael ei ostwng tua 70-90%," meddai sylfaenydd GOiA, Jarrad Morris.

"Mae diffyg enfawr ar hyn o bryd o ran opsiynau trafnidiaeth i unigolion."

Ychwanegodd: "Mae'n wyrdd, mae'n cyd-fynd â thargedau aer glân.

"Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi eu bod yn buddsoddi £38m mewn llwybrau beicio, llwybrau sgwteri ac ardaloedd cerdded mwy diogel... felly mae'n gyfle enfawr."

Byddai modd llogi'r e-sgwteri trwy ap am gost o tua £2 am 20 munud.

Byddai gan GOiA hefyd fannau dychwelyd ar gyfer yr e-sgwteri. Byddai hyn, yn ôl y cwmni, yn atal pobl rhag gadael y sgwteri ym mhobman, yn debyg i'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.

Pryderon diogelwch

Ond mae yna dal bryderon ynglŷn â diogelwch yn ôl Tom Jones, sy'n ymgynghorydd diogelwch ffyrdd.

"Maen nhw 'di stopio defnyddio nhw yn America a Ffrainc achos mae 'na bobl ifanc o dan oed yn defnyddio nhw ac yn gwibio ar hyd y ffordd," meddai.

"Mae'r pethau yma yn gallu neud hyd at 30mya, a dyna be' sy'n beryg... mae'n mynd i fod yn ryw fath o craze.

"Yn America maen nhw'n dweud bod 40,000 o bobl wedi cael anafiadau pen dros y pedair blynedd diwetha' o ddefnyddio rhain.

"Be' fysa'n ideal fysa pe bai pobl yn mynd ar ryw fath o hyfforddiant fel bo' chi'n deall yn union sut i ddefnyddio fo.

"Beth 'dan ni ddim isio ydy fel pan oedd pobl yn mynd ar eu gwyliau i Sbaen a lle oeddet ti'n gallu llogi mopeds, doedd dim ots os oedd ganddo chi license neu beidio.

"Efallai bod angen cael trwydded i ddangos bo' ti wedi cael yr hyfforddiant a wedyn mi alli di fynd i logi. Faswn i'n gobeithio gweld Llywodraeth Cymru yn arwain ar hyn ac yn dweud, 'na yng Nghymru, ar y lleia' ma rhaid i chi wisgo helmed'."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Pryderon rhai yw bod e-sgwteri yn dawel a'r cyflymder maent yn gallu teithio

Mae gan elusen yr RNIB hefyd bryderon am bobl sy'n ddall neu'n colli'u golwg.

"Mae cerbydau distaw fel e-sgwteri'n anodd iawn eu canfod i bobl ddall neu rannol ddall ac efallai nad yw'n amlwg i rywun sy'n gyrru sgwter," meddai Nathan Owen o'r elusen.

Mae'r mesurau sydd wedi cael eu cyflwyno oherwydd coronafeirws fel ymbellhau cymdeithasol eisoes yn creu "amgylchedd heriol a digroeso" ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg yn ôl Mr Owen.

Dywedodd bod llawer hefyd "yn teimlo fel eu bod yn colli hyder… maent yn colli eu hannibyniaeth ac maent yn teimlo fel eu bod yn cael eu heithrio o gymdeithas".

Er na fydd e-sgwteri'n cael eu caniatáu ar balmentydd, mae'r RNIB hefyd yn poeni efallai na fydd y rheolau'n cael eu gweithredu.