Â鶹ԼÅÄ

Perygl i feicwyr modur wrth i fwy deithio mewn car

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Gallai mwy o feicwyr modur gael anafiadau difrifol ar ffyrdd Cymru wrth i bobl osgoi trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl arbenigwyr.

Cafodd 247 o feicwyr eu hanafu neu eu lladd yng Nghymru llynedd.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod beicwyr wedi eu gweld yn teithio ar gyflymder o hyd at 127mya ym Mannau Brycheiniog yn ystod y cyfnod clo, ac mae un sy'n byw yn lleol wedi galw'r sefyllfa yn "uffern".

Mae cymdeithas diogelwch ffyrdd wedi galw am wella ymwybyddiaeth ymysg holl ddefnyddwyr y ffyrdd.

5,789 wedi eu hanafu

Mae'r heddlu wedi dweud bod rhai gyrwyr yn defnyddio ffyrdd Cymru fel "traciau rasio" yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RSPOA) bod mwy o bobl yn cael eu denu i Gymru gan olygfeydd godidog.

O'r 5,789 o bobl gafodd anafiadau mewn gwrthdrawiadau yng Nghymru yn 2019, roedd 595, neu 10%, yn feicwyr modur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd 22 o'r beicwyr yma eu lladd, ac fe ddigwyddodd dros hanner y marwolaethau yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Yn 2013 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno targed i leihau marwolaethau ac anafiadau ymysg beicwyr o 25% erbyn 2020.

Ond o gymharu'r data presennol gyda niferoedd 2004-2008, dim ond cwymp o 3.9% sydd wedi bod.

Dywedodd Michelle Harrington o'r RSPOA bod cynnydd yn nifer y beicwyr dros y blynyddoedd diweddar wedi gwneud y targed yn un anoddach ei gyrraedd.

Ychwanegodd bod disgwyl i niferoedd fod yn uwch ar hyn o bryd wrth i fwy o bobl osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae beicwyr modur yn aml yn cael y gwaethaf ohoni mewn gwrthdrawiad fyddai'n fychan i rywun mewn car ond sy'n achosi anafiadau difrifol i feiciwr," meddai.

Ffynhonnell y llun, Anita Denny
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhan yma o'r A4215 yn denu llawer o feicwyr dros fiseodd yr haf, yn ôl pobl leol

Yn ôl un sydd wedi bod yn byw yn yr ardal ers blynyddoedd, ac yn ymgyrchu i wella mesurau diogelwch, mae pobl leol yn ofni gadael eu cartrefi.

"Faint yn fwy sy'n gorfod marw neu gael eu hanafu'n ddifrifol cyn iddyn nhw wneud rhywbeth?" meddai Anita Denny, sy'n byw rhwng Defynnog a Libanus ym Mhowys.

"Rydyn ni'n poeni am yr haf, mae hi fel uffern ar benwythnos, mae'r beiciau modur fel bod jumbo jet yn mynd heibio'r tÅ·."

Er bod yr heddlu wedi dal beicwyr yn goryrru ar ffyrdd agos, dywedodd Ms Denny bod pobl sy'n byw ger yr A4215 fel hi wedi "laru ar gael ein hanwybyddu".

Camgymeriadau gan bobl

Dywedodd Ms Harrington bod y rhan fwyaf o wrthdrawiadau'n ganlyniad i gamgymeriad gan berson.

Er bod angen gwell ymwybyddiaeth gan bob gyrrwr, dywedodd bod gwneud hynny'n anodd gyda beicwyr modur.

"Rydyn ni'n gweld anfodlonrwydd... falle gan bod beicwyr modur yn meddwl eu bod wedi gyrru ers 20 mlynedd, a 'beth allan nhw fy nysgu i?'"