Â鶹ԼÅÄ

Pryderon am gwmnïau a busnesau gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Foskett
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jonathan Foskett ei bod hi'n gyfnod "pryderus ofnadwy" i fusnesau fel Harlech Foods

Wrth i Lywodraeth y DU ddweud y bydd £1.2bn ychwanegol i Gymru i ddelio ag effeithiau coronafeirws, mae busnes amlwg yn y gogledd yn dweud eu bod wedi colli gwerth cannoedd ar filoedd o bunnau.

Helpu i adfer yr economi yw rhan o nod yr arian a'r gweinidog cyllid wedi dweud ar raglen Newyddion y bydd rhan helaeth yn mynd i'r gwasanaeth iechyd.

Mae warws cwmni dosbarthu bwyd Harlech Foods yn Llanystumdwy yn orlawn, ond prin ydi'r llefydd i anfon y cynnyrch oherwydd y cyfnod clo.

Llynedd roedd gan y cwmni dros 220 o staff, ond erbyn hyn maen nhw lawr i 150. A dim ond tua traean o'r rheiny sy'n y gwaith.

Dywedodd Jonathan Foskett, Cyfarwyddwr Harlech Food Service: "Gyda busnesau bach a mawr mewn trafferthion, daw rhywfaint o gysur gyda £1.2bn o San Steffan i Lywodraeth Cymru i helpu efo'r argyfwng."

Colledion yn y gogledd

Mae'r fwyell wedi taro'n drwm ar y gogledd yn ddiweddar. Yn y dwyrain - colli dros 1,400 swyddi Airbus ym Mrychdyn. A'r gorllewin, dros 90 o ddiswyddiadau yn ffatri cynhyrchu papur ym Mhenygroes.

Gyda'r cyhoeddiad am yr arian ychwanegol o San Steffan i Gymru - mae angen pwyllo cyn cyffroi yn ôl rhai.

Disgrifiad o’r llun,

Sian Gwenllian AS: 'Yr economi sy'n glaf rŵan'

Dywedodd Sian Gwenllian, yr Aelod Senedd dros Arfon "bod yr argyfwng iechyd yn gwella am ryw hyd, yr economi sy'n glaf rŵan. A sut mae posib i ardaloedd y gogledd weld adferiad?"

Fe ychwanegodd Jonathan Foskett: "'Da ni yn gweld cryn fwy o fusnes dros y ffin yn Lloegr, ac maen nhw wedi cael y blaen arno ni yma yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydi petha yn ffrwydro yn ôl i fyny yma, mae 'na rhyw falans yna.

"Mae o yn adeg pryderus ofnadwy, a tasa 'na ffasiwn beth â'r Covid yn ffrwydro eto, ac ella bod yr ardal yn cael ei gloi lawr, 'swn i'n pryderu'n arw, a basa petha lot, lot gwaeth."