Â鶹ԼÅÄ

Ffatri bapur sy'n cyflogi 94 i gau ym Mhenygroes

  • Cyhoeddwyd
northwood
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffatri, sydd ym Mhenygroes ers degawdau, ar un adeg dan berchnogaeth cwmni Kruger Tissue Group

Mae cwmni cynhyrchu papur tÅ· bach wedi cyhoeddi bwriad i gau eu ffatri sy'n cyflogi bron i 100 o bobl yng Ngwynedd.

Dywed rheolwyr Northwood Hygiene Products fod y cynnig, sy'n effeithio ar 94 o weithwyr ym Mhenygroes, yn dilyn adolygiad strategol o'r busnes.

Maen nhw'n dweud fod amodau'r farchnad yn symud yn gyflym yn sgil yr argyfwng coronafeirws, gan arwain at "ostyngiad sylweddol" yn y galw am eu cynnyrch.

Ond mae'r penderfyniad yn "gynamserol" yn ôl yr undeb Unite, ac "yn bradychu gweithlu ffyddlon a medrus".

'Penderfyniad anodd'

Mae'r undeb yn galw ar y cwmni i ohirio'r penderfyniad, a'r broses ymgynghori gyda'r staff.

Dywed y cwmni fod "sawl opsiwn amgen wedi eu hystyried" ond wrth i'r farchnad grebachu roedd rhaid "gwneud y penderfyniad anodd yma".

Yn eu datganiad, dywed rheolwyr eu bod "wedi ymrwymo'n llwyr" i broses ymgynghori "a fydd yn para am leiafswm o 30 diwrnod".

Mae'n fwriad i symud y gwaith cynhyrchu i ffatrïoedd eraill a gwasanaethu cwsmeriaid o safleoedd yn Telford, Oldham, Birmingham, Lancaster a Bromsgrove.

Mae undeb Unite, sy'n cynrychioli dros 40 o'r gweithwyr ym Mhenygroes, yn galw ar y cwmni i ddefnyddio cynllun diogelu swyddi Llywodraeth y DU, ac unrhyw gymorth arall sydd ar gael, cyn penderfynu ar ddyfodol y ffatri.

Mae'r undeb yn dadlau y gallai cefnogaeth o'r fath ennill amser i'r cwmni weld i ba raddau gall yr economi ddod at ei hun wedi'r cyfyngiadau coronafeirws.

'Amseriad ofnadwy'

Cafodd hanner y staff eu rhoi ar gyfnod ffyrlo dair wythnos yn ôl, medd yr undeb, sydd credu "fod y cwmni nawr yn bwriadu cofrestru gweddill y gweithlu yn syth" ar gyfer y cynllun hwnnw.

Dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Daryl Williams: "Mae'r cynnig yma bradychu gweithlu ffyddlon a medrus a phetai'n cael ei weithredu, fe fydd yn ergyd anferthol i economi Dyffryn Nantlle."

"Mae cynlluniau Northwood i gau'r safle yn gynamserol ac mae angen eu gohirio nes diwedd y cyfnod clo, pan fydd yna ddarlun mwy clir o sefyllfa'r economi yn gyffredinol."

Ychwanegodd mai nod cynllun y llywodraeth oedd "atal diswyddiadau diangen yn ystod yr argyfwng yma a dylai Northwood aros cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch dyfodol y safle."

Ar ei chyfrif Twitter dywedodd cynrychiolydd Arfon yn Senedd Cymru, Sian Gwenllian y byddai hi a'r Aelod Seneddol, Hywel Williams "yn holi am gyfarfod ar-lein efo'r cwmni" ac yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r datblygiad.

Ar raglen Post Prynhawn, dywedodd y cynghorydd sir lleol, Judith Humphreys, fod y cyhoeddiad yn ergyd dros gan fod y ffatri yn y pentref "ers degawdau" a "rhan helaeth y gweithlu yn byw yn lleol".

Ychwanegodd fod "yr amseriad yn ofnadwy" yn sgil heriau cyffredinol yr argyfwng coronafeirws.