Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Llywydd Gŵyl AmGen, Josh Nadimi

  • Cyhoeddwyd
Josh NadimiFfynhonnell y llun, Josh Nadimi

Un o lywyddion Gŵyl AmGen Radio Cymru sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma.

Mae Josh Nadimi yn llawfeddyg sy'n wreiddiol o Lantrisant, ac ar ôl hyfforddi, sydd wedi dychwelyd i'w ardal enedigol i weithio yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwyliau i Corfu pan oeddwn i'n blentyn gyda'r teulu. O'dd ymbarél lliwgar 'da fi ac o'n i mo'yn cymryd e i bobman, hyd yn oed yn y tywydd twym, achos o'n i'n esgus bod yn Jiminy Cricket o Pinocchio!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Jennifer Aniston pan oedd hi ar Friends yn y nawdegau!

Ffynhonnell y llun, Friends
Disgrifiad o’r llun,

Jennifer Aniston gyda'r steil gwallt eiconig 'The Rachel' o'r 90au canol

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i yn rhan o galendr noeth ar gyfer elusen gyda'r tîm pêl-droed pan o'n i'n y brifysgol.

Dwi'n cofio bod yn borcyn yng nghanol cae pêl-droed tra oedd ein llunie yn cael eu cymryd, a chwaraewyr pêl-droed eraill a'r tîm hoci merched yn ymarfer ar y cae nesaf. Cywilydd ond ar gyfer achos da!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y tro dwetha' dwi'n cofio yw pan wnaeth fy nghath o 16 mlynedd farw. O'dd hwnna tua pum mlynedd yn ôl.

Ond byddwn i 'di crio blwyddyn yma os nad oedd tîm pêl-droed Lerpwl 'di ennill y gynghrair!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod o goffi! Ma'r arfer yma wedi gwaethygu pan dwi'n brysur gyda gwaith a bywyd dydd-i-ddydd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Rhaid dweud traeth Aberporth yn sir Ceredigion. Atgofion plentyndod o aros gyda Mam-gu a chwarae ar y traeth. Dwi dal yn hoff iawn o fynd i Aberporth.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan oeddwn i yn Awstralia yn ymweld â ffrindiau, gwrddon ni â Brian May o'r band Queen ac Adam Lambert ar noson mas yn Brisbane! Dyn hynod o ddiddorol a rhoddodd e docynnau i'r cyngerdd a gwahoddiad i fynd tu ôl i'r llwyfan. Noson anghredadwy!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cyfeillgar, uchelgeisiol, hwyl.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Jürgen Klopp. Fel cefnogwr Lerpwl bydden i'n hoffi clywed sut wnaeth y rheolwr gorau pêl-droed heddi greu tîm mor aruthrol!

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Jürgen Klopp yn dathlu bod Lerpwl wedi ennill yr Uwchgynghrair ar ôl aros am 30 mlynedd

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

House of God - Samuel Shem. Llyfr dychanol am interns meddygol yn America yn yr 1970au. Diddorol ac yn drosglwyddiadwy iawn fel meddyg!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hynod ofnus o siarcod! Falle achos odd 'da fi obsesiwn gyda nhw fel plentyn…

Beth yw dy hoff gân?

Ma'n hoff ganeuon i yn newid trwy'r amser, a nifer y playlists Spotify yn tyfu pob wythnos...

Ma' Comfortably Numb gan Pink Floyd trwy'r amser yn un o'm hoff ganeuon achos yr unawd gitâr anhygoel!

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pink Floyd ei sefydlu yn Llundain yn 1965

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - Cregyn gleision mewn saws gwin gwyn.

Prif gwrs - Stêc ffiled (medium-rare) gyda llysiau gwyrdd a sglodion (gyda gwin coch neis, wrth gwrs!).

Pwdin - Pwdin toffi gludiog gyda hufen iâ.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gyda fy mhartner, fe fydden ni'n cwrdd â'n holl ffrindiau a theulu a mynd mas am fwyd ac i yfed a joio. Gobeitho bydd y diwrnod hwnnw ddigon bell i ffwrdd!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rhywun pwerus fel y Prif Weinidog. Mae nifer o bolisïau fydden i'n ceisio eu newid er mwyn amddiffyn ein NHS!

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw