Â鶹ԼÅÄ

Datgelu gwobrau cystadlaethau Gŵyl AmGen

  • Cyhoeddwyd
Arysgrifau'r tair stôlFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae trefnwyr wedi datgelu gwobrau cystadlaethau gŵyl AmGen, sydd wedi cael ei drefnu ar ôl i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 gael ei gohirio.

Yn hytrach na chadair, coron neu fedal, mae Gŵyl AmGen yn cynnig stôl am ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith, ac i anrhydeddu dysgwr Cymraeg.

Mae Gŵyl AmGen yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Â鶹ԼÅÄ Cymru, ac yn rhan o'r Eisteddfod AmGen, sy'n cael ei threfnu yn absenoldeb y Brifwyl, oedd i fod i ddigwydd yn Nhregaron o 1-8 Awst.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal trwy benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.

Cyhoeddwyd manylion y cystadlaethau llenyddol ddechrau Mehefin ac roedd angen cyflwyno ceisiadau cyn 6 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Stôl Farddoniaeth Gŵyl AmGen, sydd â choesau dur

Roedd gofyn i'r ymgeiswyr ar gyfer y Stôl Farddoniaeth greu darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen.

Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood yw'r beirniaid, ac roedd yna 34 o geisiadau.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Stôl Ryddiaith Gŵyl AmGen

Darn hyd at 500 gair ar y testun Gobaith oedd y dasg i roi cynnig am y Stôl Ryddiaith, ac roedd yna 67 ymateb i'r her.

Roedd modd i'r darn fod yn ysgrif, stori fer, llên micro neu unrhyw ffurf arall ar ryddiaith.

Dau sydd wedi cael llwyddiant ysgubol yn y Brifwyl yn ddiweddar, Manon Steffan Ros a Guto Dafydd, sy'n beirniadu.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Stôl Dysgwr Gwŷl AmGen, sy'n cydnabod ymdrechion arbennig dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd

Mae pum person ar rhestr fer gwobr Dysgwr yr Ŵyl sef Mathias Maurer, Jazz Langdon, Siân Sexton, Elisabeth Haljas a Barry Lord.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru a'r Eisteddfod yn cynnal y gystadleuaeth ar y cyd â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Duolingo a Say Something in Welsh.

Fe fydd y pump yn cael eu cyfweld gan Shân Cothi ar Radio Cymru cyn i'r panel beirniadu ddewis enillydd.

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ar Radio Cymru am 16:30 ddydd Sadwrn, 1 Awst.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r stolion wedi'u creu gan ailgylchu hen ddeunyddiau yn storfa'r Eisteddfod Genedlaethol

Cafodd y stolion eu creu gan Brif Dechnegydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Tony Thomas yn eu storfa yn Llanybydder.

"Mae Tony'n hen law ar ailgylchu ac wedi defnyddio beth bynnag oedd wrth law yn y storfa i greu'r stolion," meddai Robyn Tomos, Swyddog Celf Gweledol yr Eisteddfod.

"Mae'n ailgylchu bob cyfle - mae'n gas ganddo daflu unrhyw beth ac mae'n gallu gweld defnydd ym mhob peth y byddai eraill ei luchio.

"Mae'n dal i ddefnyddio rhannau o'r hen bafiliwn Celf a Chrefft godwyd yng Nghasnewydd yn 1988. Mae'n ddyfeisgar ac yn ddychmygus iawn."

Bydd enillwyr gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020 a seremoni Albwm Cymraeg y Flwyddyn hefyd yn cael eu darlledu fel rhan o'r ŵyl.