Â鶹ԼÅÄ

Gŵyl eisteddfodol AmGen i lwyfannau digidol Â鶹ԼÅÄ Cymru

  • Cyhoeddwyd
Logo cynllun Eisteddfod AmGenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i gynnal gŵyl tri diwrnod o hyd, fydd yn "llwyfan i oreuon y genedl", a chyfle i "ddarganfod a phrofi talent newydd Cymru".

Bydd Gŵyl AmGen yn digwydd dros benwythnos hir rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst - a gobaith y trefnwyr yw y bydd yn llenwi'r bwlch y mae Eisteddfod Ceredigion yn ei adael eleni.

Fe fydd yn cynnig rhywbeth i bawb medd y trefnwyr - "o gerddoriaeth i lenyddiaeth, comedi i gelf, cyngherddau a chystadlu".

Fe fydd cyflwynwyr Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn tywys y gynulleidfa i bob cornel o'r Maes rhithiol - yn cynnwys rhaglenni dogfen a cherddoriaeth, yn ogystal â dramau a chyngherddau.

Cystadlaethau

Elfen bwysig o'r Ŵyl AmGen fydd y prif gystadlaethau a seremonïau barddonol a llenyddol gyda thestunau newydd i'w cyhoeddi yn fuan - gan gynnwys cerdd gaeth neu rydd a darn o lenyddiaeth boed yn ysgrif, stori fer, llên micro neu unrhyw ffurf arall ar ryddiaith.

Yn ogystal, ceir cyfle i fawrygu Dysgwr y Steddfod AmGen, wrth i Â鶹ԼÅÄ Cymru a'r Eisteddfod gydweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Duolingo a Say Something in Welsh a bydd cyfle i fwynhau caneuon o sioeau cerdd Cymraeg ar eu newydd wedd.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ hefyd yn cydweithio â Llenyddiaeth Cymru a'u partneriaid er mwyn cyhoeddi enillwyr gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020 fel rhan o'r ŵyl. Ac fe fydd seremoni Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei darlledu fel rhan o hwyl yr ŵyl.

Disgrifiad o’r llun,

Rhuanedd Richards, Golygydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru a Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

Dywedodd Rhuanedd Richards, Golygydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru a Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw: "Mae'r Eisteddfod yn unigryw a does dim dwywaith y byddwn yn gweld ei cholli eleni.

"Ond, dyma gyfle gwych i ni allu dod at ein gilydd fel cenedl i ddathlu ein diwylliant a chreu gŵyl o'r newydd.

"Fe fydd hi'n Faes B, pafiliwn a phabell lên ond yn bennaf oll fe fydd yn ganolbwynt ac yn gyrchfan i wrandawyr o bob cwr o'r byd i ymgynnull a mwynhau arlwy o raglenni amrywiol o'r 'stafell fyw."

'Bwrlwm yr ŵyl'

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae pawb yn siomedig nad yw'r Eisteddfod 'go iawn' yn cael ei chynnal yng Ngheredigion eleni, felly ry'n ni wedi dod ynghyd er mwyn sicrhau bod modd i bobl fwynhau rhywfaint o flas a bwrlwm yr ŵyl yn ystod yr wythnos.

"Ry'n ni wedi gweithio gyda'r Â鶹ԼÅÄ i ddod â'r Eisteddfod yn fyw i'r gynulleidfa gartref ers blynyddoedd, felly mae'n braf gallu gwneud hyn eto eleni.

"A chyn yr wythnos, mae digonedd o gynnwys yn cael ei ryddhau ar draws pob platfform yn ddyddiol gennym ni rhwng nawr a mis Awst, fel rhan o'r Eisteddfod AmGen."

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Maes traddodiadol ar gael eleni, ond fe fydd digon o weithgareddau yn ystod yr ŵyl medd y trefnwyr