Covid-19: Dros 1,000 wedi eu heintio mewn ysbytai

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffigyrau'n dangos bod 1,172 o gleifion yn "bendant" wedi dal yr haint yn yr ysbyty

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi manylion am gannoedd o bobl gafodd ei heintio gyda Covid-19 tra yn yr ysbyty.

Dyma'r tro cyntaf i'r ffigyrau ddod i'r amlwg, ac mae ICC yn dilyn cydweithwyr yn yr Alban wrth gyhoeddi'r ystadegau.

Maen nhw'n dweud bod bron 1,800 o gleifion lle mae'n "debygol" neu'n "bendant" eu bod wedi cael yr haint ar ôl mynd i ysbyty.

Ychwanegodd ICC bod 11% o'r holl achosion yn deillio o heintio mewn ysbyty, ond bod y niferoedd wedi gostwng yn "sylweddol" ers brig yr haint.

Dadansoddi'r data

Mae'n gallu bod yn fater cymhleth cael sicrwydd o ble cafodd pobl eu heintio, yn enwedig gan bod nifer ddim yn dangos unrhyw symptomau.

Gallai fod rhai cleifion wedi mynd i'r ysbyty heb fod yn ymwybodol fod Covid-19 arnyn nhw'n barod.

Y dull a ddefnyddiwyd i benderfynu pryd a ble cafodd pobl eu heintio oedd hyn:

  • Prawf positif o fewn deuddydd i fynd i'r ysbyty = heintio yn y gymuned
  • Prawf positif rhwng 3-7 diwrnod o fynd i'r ysbyty = 'Amhendant'
  • Prawf positif rhwng 8-14 diwrnod o fynd i'r ysbyty = 'Tebygol'
  • Prawf positif 15 diwrnod neu fwy ar ôl mynd i ysbyty = 'Pendant'

Mae ffigyrau ICC yn dangos 1,172 o gleifion yn y categori 'Pendant' a 616 arall yn y categori 'Tebygol'.

Mae oddeutu 500 arall yn y categori 'Amhendant'.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Dr Robin Howe, cyfarwyddwr digwyddiadau ICC, bod gwelliannau wedi eu gwneud, a bod cyfraddau heintio wedi dod i lawr o dros 90% ers brig yr haint.

"Mae'r data'n dangos bod ymlediad coronafeirws mewn lleoliadau gofal iechyd o dan reolaeth, a'i bod yn ddiogel i bobl fynd at wasanaethau iechyd yng Nghymru," meddai.

"Fel mewn rhannau eraill o'r byd, mae heintio mewn ysbytai wedi digwydd yng Nghymru, ac mae heintusrwydd y feirws wedi cyflwyno heriau i'r gwasanaetha iechyd.

"Roedd nifer sylweddol o heintiadau mewn ysbytai yn nyddiau cynnar y pandemig, gyda'r brig yn digwydd yn yr wythnos 5 Ebrill."

Sefyllfa'r Alban

Mae Cymru'n dilyn yr Alban wrth gyhoeddi'r ystadegau yma.

Dangosodd ffigyrau'r Alban fod bron 72% wedi cael eu heintio yn y gymuned, ond roedd dros 1,000 yn y categori 'Pendant' a 272 yn rhagor yn y categori 'Tebygol'.

Yn yr wythnos mwyaf diweddar o ddata, mae ffigyrau'r Alban yn dangos un achos 'Pendant' a dau achos 'Tebygol' o heintio Covid-19 yn yr ysbyty.