Â鶹ԼÅÄ

Beirniadu ymateb Plaid i rybudd heddlu Jonathan Edwards

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jonathan Edwards ei fod yn difaru'r digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd"

Mae Plaid Cymru wedi 'methu gweithredu yn sydyn a difrifol' ar ôl i Aelod Seneddol gael rhybudd gan yr heddlu am ymosod, yn ôl AS Ceidwadol.

Cafodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards ei wahardd o grŵp Seneddol Plaid Cymru wedi iddo gael ei arestio yn ei gartref fis Mai.

Cafodd Mr Edwards rybudd gan yr heddlu ar ddiwedd Mehefin ond dywedodd yr AS Ceidwadol, Fay Jones, bod Plaid Cymru wedi bod yn araf i ymateb.

Dywedodd Plaid Cymru ei fod wedi ymateb gyda "chyflymder digynsail."

'Siomedig iawn'

Dywedodd Ms Jones, sy'n cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed yn San Steffan: "Mae Mr Edwards wedi derbyn cyfrifoldeb am y digwyddiad, ond mae'r blaid wedi methu â gweithredu, ac rwy'n gweld hynny'n siomedig iawn.

"Fe ddylai Plaid Cymru gwblhau ei hymchwiliad mewnol gyda'r cyflymder a'r difrifoldeb sy'n haeddiannol, yn hytrach na'i anwybyddu."

Mae derbyn rhybudd yn gydnabyddiaeth o euogrwydd, a bydd manylion unrhyw achos o'r fath yn cael ei gadw ar gofnod gan yr heddlu.

Mae Mr Edwards wedi ymddiheuro a chyfeirio ei hun at bwyllgor disgyblu mewnol Plaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fay Jones bod Plaid Cymru "wedi methu â gweithredu"

Mae'r Aelod Llafur o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson wedi galw ar arweinydd Plaid Cymru i weithredu.

"Rwy'n galw ar Adam Price i wneud yn glir sut mae'n bwriadu delio gyda'r mater," meddai.

"Ymddiheuriad neu beidio, mae derbyn rhybudd yn gydnabyddiaeth o euogrwydd, ac mae ymosod yn drosedd ddifrifol.

"Bydd nifer yn aros i weld sut y bydd arweinydd ei blaid yn delio â hyn, a pha fath o neges mae'n penderfynu ei yrru."

'Dod i derfyn yn y dyddiau nesaf'

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Fel mae gwasanaethau newyddion eraill eisoes wedi'i adrodd, bydd y mater yn dod i derfyn yn y dyddiau nesaf.

"Mae Plaid Cymru wedi ymateb gyda chyflymder digynsail ac eisoes wedi gweithredu'n sydyn a chadarn tra'n cadw didueddrwydd y broses."

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau wedi iddo dderbyn y rhybudd heddlu dywedodd Mr Edwards ei fod yn "wir ddrwg ganddo" a'i fod yn edifar y digwyddiad "yn fwy na dim arall yn fy mywyd."

Dywedodd datganiad ar ran ei wraig, Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ngŵr.

"Gydol y ddegawd yr ydym wedi bod gyda'n gilydd mae e wedi bod yn ŵr ac yn dad cariadus a gofalus. O'm rhan i mae'r mater bellach ar ben."