Â鶹ԼÅÄ

AS Plaid Cymru wedi'i arestio ar amheuaeth o ymosod

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Edwards wedi cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan ers 2010

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi colli chwip y blaid ar ôl cael ei arestio.

Cafodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei arestio ddydd Mercher, 20 Mai, ar amheuaeth o ymosod.

Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod ymchwiliad yn parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Cafodd dyn 44 oed o Rydaman ei arestio ddydd Mercher, 20 Mai 2020 ar amheuaeth o ymosod. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth."

Mae colli'r chwip yn golygu bod Aelod Seneddol i bob pwrpas wedi'i wahardd o'r blaid dros dro, a rhaid eistedd fel aelod annibynnol nes y bydd yn adennill y chwip.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Plaid Cymru: "Mae chwip y blaid wedi'i thynnu'n ôl nes bod ymchwiliad yr heddlu wedi dod i ben.

"Mae Mr Edwards wedi derbyn y cam gweithredu hwn ac mae'n cydymffurfio'n llawn ag ymholiadau'r heddlu.

"Byddai'n amhriodol i'r blaid wneud sylw pellach ar hyn o bryd."