AS yn cael rhybudd heddlu ac yn ymddiheuro

Mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi cael rhybudd gan yr heddlu wedi digwyddiad pan gafodd plismyn eu galw i'w gartref fis diwethaf.

Cafodd Mr Edwards, 44 oed, ei arestio ar 20 Mai ar amheuaeth o ymosod.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Mr Edwards ei fod yn "wir ddrwg ganddo" a'i fod yn edifarhau am hyn "yn fwy na dim arall yn ei fywyd".

Mae gwraig Mr Edwards, Emma, hefyd wedi rhyddhau datganiad yn dweud ei bod yn "derbyn ymddiheuriad ei gŵr".

Mae Jonathan Edwards wedi cyfeirio ei hun at bwyllgor disgyblu mewnol Plaid Cymru ac wedi'i wahardd o'r blaid.

Pan gafodd Mr Edwards ei arestio ym mis Mai, fe wnaeth Plaid Cymru gymryd y chwip oddi ar arno sy'n golygu ei fod i bob pwrpas yn AS annibynnol.

Mae derbyn rhybudd yn gyfaddefiad o euogrwydd a bydd y manylion yn cael eu cadw yng nghofnodion yr heddlu.

Sicrhau dyfodol y teulu

Dywedodd Alun Ffred Jones, Cadeirydd Plaid Cymru: "Rydym yn ymwybodol o ddatganiad personol Mr Edwards sy'n cydnabod bod yr hyn a wnaeth islaw yr hyn sy'n ddisgwyliedig.

"Mae Mr Edwards wedi gwneud y datganiad gyda chefnogaeth ei deulu ac ry'n yn gofyn i bawb barchu eu preifatrwydd."

Mae datganiad personol Mr Edwards yn dweud: "Rwy'n ymddiheuro'n fawr am yr hyn sydd wedi digwydd. Rwy'n edifarhau am hyn yn fwy na dim arall yn fy mywyd.

"Rwyf wedi cydymffurfio yn llawn gyda gofynion yr heddlu a fy mhrif gymhelliad gydol yr ymchwiliad yw gweithredu er budd fy ngwraig a'm plant.

"Fy mlaenoriaeth nawr yw cydweithio â'm gwraig i sicrhau dyfodol mor sefydlog â phosib i'n teulu."

'Gŵr a thad cariadus a gofalus'

Nododd datganiad ar ran Emma Edwards: "Rwyf wedi derbyn ymddiheuriad fy ngŵr. Gydol y ddegawd yr ydym wedi bod gyda'n gilydd mae e wedi bod yn ŵr ac yn dad cariadus a gofalus. O'm rhan i mae'r mater bellach ar ben."

Graddiodd Mr Edwards o Brifysgol Aberystwyth ac mae e wedi bod yn AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2010. Arferai weithio fel swyddog i Blaid Cymru a Chyngor ar Bopeth Cymru.