Rhannu rôl Prif Weinidog Cymru rhwng y pleidiau?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, A fydd y Senedd yn dilyn patrwm Iwerddon wedi'r etholiadau flwyddyn nesaf?

Gallai pleidiau gwleidyddol ystyried trefn newydd i rôl Prif Weinidog Cymru yn dilyn etholiadau nesa'r Senedd, yn ôl arbenigwr.

Daeth sylwadau'r Athro Roger Awan-Scully wedi i bleidiau yn Iwerddon gytuno ar drefn lle bydd rôl y Taoiseach - prif weinidog y wlad - yn cael ei rhannu rhwng gwahanol bleidiau.

Bum mis wedi'r etholiad cyffredinol yno, cyhoeddwyd mai Micheál Martin, arweinydd plaid Fianna Fáil fydd yn cyflawni'r swydd tan fis Rhagfyr 2022. Yna, tro Leo Varadkar o Fine Gael fydd hi.

Mae'r Blaid Werdd hefyd yn rhan o'r cytundeb, a bydd gan y dair plaid weinidogion yn y cabinet drwy gydol cyfnod y senedd.

Gan nad oes un plaid wedi sicrhau mwyafrif ym Mae Caerdydd, a gyda'r polau piniwn yn awgrymu senedd grog arall ym mis Mai, tybed a welwn ni drefn debyg yma?

Y rhifyddeg yn allweddol

"Bydd y rhifyddeg yn penderfynu llawer o'r hyn fydd yn digwydd ar ôl yr etholiad ym mis Mai," meddai'r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

"Os gwelwn ni un blaid yn agos iawn at fwyafrif yna mae hynny'n gyd-destun gwahanol iawn i sefyllfa lle mae gennych chi dair plaid gyda tua 20 sedd yr un.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Athro Roger Awan-Scully yn credu y gall Iwerddon gynnig patrwm i lywodraeth nesaf Cymru

"Yn yr ail sefyllfa, dwi'n credu y bydd pob math o ffyrdd traddodiadol o drafod clymbleidio, a gallech chi weld y pleidiau'n meddwl yn greadigol ac yn gwthio i gael rhai swyddi gweinidogol allweddol, neu efallai y gwelwn ni'r posibilrwydd o drefniant lle bydd cyfnewid rhai swyddi'n digwydd, hanner ffordd drwy dymor y Senedd gan gynnwys rôl allweddol y Prif Weinidog."

Tra'n siarad ar raglen deledu'r Â鶹ԼÅÄ, Politics Wales, dywedodd yr Athro Awan-Scully mai bendith y math yna o drefniant yw na fyddai'r un o'r pleidiau'n cael ei gweld fel y partner iau mewn clymblaid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rydym wedi gweld yn hanes y DU nad yw'n ymddangos bod y partner iau mewn clymblaid yn ennill rhyw lawer o bleidleisiau pan ddaw'r etholiad nesaf.

"Mae'r drefn o gylchdroi'r swydd yn rhoi cyfle i'r ddwy blaid gael sylw, cyfnod lle maen nhw'n cael eu gweld yn arwain y llywodraeth, pan mae eu person hwy yn rôl y Prif Weinidog, ac efallai fod hynny'n ffordd o ddod dros rhai o'r pryderon sydd gan bleidiau ynglŷn â ffurfio clymblaid."

'Ni ellir diystyru'r syniad'

Mae Jo Kiernan wedi gweithio fel ymgynghorydd arbennig i'r Prif Weinidogion Llafur, Carwyn Jones a Rhodri Morgan. Fe chwaraeodd ran yn nhrafodaethau'r glymblaid efo Plaid Cymru 2007 hefyd.

Erbyn hyn mae hi'n gweithio fel ymgynghorydd gwleidyddol, ac er nad yw'n credu mai system o 'gylchdroi' prif weinidogion fydd y canlyniad mwyaf tebygol, mae'n dweud na allwn ddiystyru unrhyw beth.

"Bydd llawer o sefyllfaoedd yn cael eu cyflwyno, ac efallai y bydd hwn yn un ohonyn nhw, neu efallai ddim.

"Dwi wedi clywed Plaid Cymru'n dweud nad ydyn nhw eisiau mynd i glymblaid ffurfiol gyda neb achos eu bod yn credu y gallai hynny fod yn niweidiol iddyn nhw.

"Ond yn y diwedd canlyniadau'r noson fydd yn penderfynu - beth fydd ffigyrau Llafur, a sut fydd ffigyrau'r Toriaid a'r Blaid yn edrych o gael eu cyfuno?

"Fedrwch chi ddim diystyru unrhyw beth."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Gallai rôl y prif weinidog newid wrth i'r polau piniwn ddarogan y bydd senedd grog arall ym mis Mai

Yn ogystal â rhifau, dywed Ms Kiernan y bydd personoliaethau ac ymddiriedaeth yn ffactorau allweddol hefyd, cyn ystyried unrhyw gytundeb.

"Pan edrychaf yn ôl i'r trefniant clymbleidio yn 2007 rhwng Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones, roedd y ddau'n adnabod ei gilydd, roedd y ddau yn gyn-Aelodau Seneddol, roedden nhw'n hoff o'i gilydd ac roedd ganddynt barch at ei gilydd.

"Ac mae'r gallu i aros yn cŵl yn bwysig iawn ar adegau anodd - y ffaith y gallan nhw ddelio ag argyfwng mewn ffordd dawel a phwyllog yn hytrach na gweiddi ar ei gilydd ac anghytuno.

"Os meddyliwch chi am y cam nesaf, sef y drefn o gylchdroi'r brif weinidogaeth, bydd angen hyd yn oed fwy o ymddiriedaeth, achos ta pwy sy'n mynd gyntaf - ac fe fyddai hynny'n cael ei benderfynu drwy drafod - bydd rhaid i'r partner arall fod yn hollol sicr, ac yn ymddiried yn llwyr na fydd y blaid sy'n mynd gyntaf yn ffugio stori neu'n dyfeisio rhyw fath o ffrae hanner ffordd drwy'r ail dymor er mwyn tynnu sylw ati'i hun a threulio ychydig o amser yn chwarae rhan yr wrthblaid cyn yr etholiadau nesaf."

Mae'r tair prif blaid yn dweud nad ydynt wedi meddwl am unrhyw gynlluniau clymbleidio, ond o ddilyn canlyniadau'r gorffennol, mae'n ymddangos yn anorfod y bydd rhaid cael cytundeb o rhyw fath ar ôl yr etholiad.

Mae modd gweld y rhaglen yn llawn yma.