Â鶹ԼÅÄ

Plaid Cymru i arwain clymblaid?

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'n well gan Adam Price weld Plaid Cymru yn arwain llywodraeth leiafrifol na clymbleidio gyda Llafur

Gallai Plaid Cymru arwain clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn etholiadau Cynulliad 2016, yn ôl Adam Price.

Mewn darlith ar achlysur Diwrnod Owain Glyndŵr yn Galeri, Caernarfon, dywedodd Mr Price nad oedd goruchafiaeth Llafur yn gwneud lles i ddemocratiaeth yng Nghymru.

Gan ddweud nad yw'n rhagweld y bydd yr un blaid yn llwyddo i gael mwyafrif, dywedodd ei fod yn credu y byddai clymblaid wedi ei harwain gan y cenedlaetholwyr yn "gyfle hynod".

Er iddo gydnabod nad oes posibilrwydd o gytundeb swyddogol rhwng Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr mae Mr Price yn credu y gall y ddwy blaid ddod i gytundeb tymor byr fel bod angen.

Clymblaid

Byddai hyn yn gweld Plaid Cymru'n cytuno i weithredu rhai o bolisïau'r Ceidwadwyr ar yr amod eu bod yn cytuno i bleidleisio gyda'r Blaid mewn rhai achosion.

Dywedodd Mr Price, fydd yn cynrychioli'r Blaid yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn etholiad 2016: "Mae pob math o senario yn bosib ym 2016, ac mi fydd fy mhlaid i fel pob plaid arall yn mynnu mai mwyafrif y mae hi'n anelu ati.

"Ond o roi hynny o'r neilltu am eiliad, mae profiad yn awgrymu na fydd unrhyw blaid yn meddu ar fwyafrif ac y bydd clymblaid arall yn yr arfaeth. Mae 'Cymru'n Un' arall yn bosibilrwydd wrth gwrs, er y byddai rhaid i'r wobr i Gymru fod yn fwy hyd yn oed na Senedd ddeddfwriaethol.

"Buasai'n well nawr hwyrach i Lafur ddatblygu ei chynigion."

'Llywodraeth an-Lafurol'

Dyw Mr Price ddim yn gweld be all Llafur gynnig fyddai'n ddigon i weld Plaid Cymru'n cytuno i fod yn bartner iau mewn clymblaid arall.

Roedd y sefyllfa'n wahanol yn 2007 pan roedd yr addewid o refferendwm ar gael pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn ddigon i sicrhau cydweithrediad y blaid, oedd yn cael ei harwain gan Ieuan Wyn Jones ar y pryd.

"Ond mae opsiwn arall," dywedodd Mr Price. "Cyfle am lywodraeth an-Lafurol, yn gydnaws gyda gwerthoedd radicalaidd Cymreig a Llywodraeth Cymru yn cael ei arwain am y tro cyntaf ers dyddiau Glyndŵr gan ymgyrchydd o blaid annibyniaeth Gymreig.

"Pe na bae'r Blaid Lafur yn sicrhau mwyafrif unwaith eto, a Phlaid Cymru yn dod yn ail fel yr ydym wedi gwneud ymhob etholiad cyffredinol Cymreig heblaw un, byddai ffurfio llywodraeth leiafrifol ar y cyd gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig cyfle hynod i symud o Gymru'n Un i Gymru Unedig."