Â鶹ԼÅÄ

Y Cymro sy'n plismona'r protestiadau yn America

  • Cyhoeddwyd
Lt Col Mike John yn ystod y protestiadau yn CincinnatiFfynhonnell y llun, Mike John
Disgrifiad o’r llun,

Lt Col Mike John yn ystod y protestiadau yn Cincinnati

"Golygfa fochaidd a dychrynllyd" - dyna sut wnaeth Cymro o Gaerdydd sy'n un o benaethiaid yr heddlu mewn dinas yn America ddisgrifio'r amgylchiadau wnaeth arwain at farwolaeth George Floyd yn Minneapolis.

"Ro'n i wir yn methu credu y byddai unrhyw un yn gallu trin ei gyd-ddyn yn y fath fodd," meddai Lieutenant Colonel Mike John, sy'n Bennaeth Cynorthwyol Heddlu Cincinnati yn Ohio.

"Ond i feddwl mai'r heddlu oedd yn gyfrifol am hyn, wel, roedd hynny y tu hwnt i unrhyw eiriau, a bod yn onest."

Ers hynny, gyda phrotestiadau mudiad Black Lives Matter yn lledu ar draws America a thu hwnt, mae Mike John a'i gyd-swyddogion yn Heddlu Cincinnati wedi cael cyfnod prysur yn plismona digwyddiadau torfol.

Dywedodd: "Yn naturiol, mae pobl wedi eu cythruddo. Dros y deng niwrnod diwetha' ry'n ni wedi gweld miloedd o bobl mas ar y strydoedd yn protestio fan hyn yn Cincinnati ac yn dangos pa mor flin maen nhw gyda'r hyn ddigwyddodd yn Minneapolis."

Ffynhonnell y llun, The Cincinnati Enquirer
Disgrifiad o’r llun,

Miloedd yn protestio yn Fountain Square, Cincinnati ar 7 Mehefin

"Mae llawer iawn o bobl yn teimlo bod yr heddlu wedi eu gadael nhw lawr. Ac mae hynny, wrth gwrs, wedi esgor ar lot fawr o deimladau cryf ac emosiwn.

"Yn amlwg, mae'n rhaid i rywbeth sylfaenol newid ar hyd a lled America yn y ffordd ry'n ni'n plismona. A'r broblem sy' gyda ni yw bod 'na gymaint o adrannau gwahanol o heddlu yn yr Unol Daleithiau.

"Yn y Deyrnas Unedig mae gyda chi rhyw fath o bolisi canolog o ran plismona, ond dyw hynna ddim yn wir am America.

"Fe fyddwn i'n hoffi dweud - gyda thipyn o sicrwydd - na fyddech chi'n gweld golygfa fel 'na yn Cincinnati. Ond, ry'n ni wedi cael ein problemau fan hyn hefyd, yn enwedig yn y gorffennol."

Terfysgoedd

Yn Ebrill 2001, gwelwyd dyddiau o derfysgoedd ar strydoedd Cincinnati wedi i Timothy Thomas, dyn ifanc du 19 oed, gael ei saethu'n farw gan yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Cincinnati Police Department
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymro o Gaerdydd: Mike John

"Fe wnaeth hynny olygu bod y gymuned Affro-Americanaidd wedi colli pob hyder ynddom ni fel heddlu yma yn Cincinnati ar y pryd," dywedodd Lt Col John, wnaeth ymuno â heddlu'r ddinas yn 1997, ar ôl mudo yno o Gymru saith mlynedd ynghynt.

"Ry'n ni wedi gorfod gweddnewid ein dull o blismona yn llwyr ers hynny.

"Mae ffordd bell gyda ni i fynd o hyd, ond rwy'n teimlo ein bod ni ar y trywydd iawn erbyn hyn."

Ennill ffydd

Yn ôl Lt Col John mae'r heddlu yn Cincinnati wedi mabwysiadu "technegau syml, ond effeithiol" er mwyn ceisio ennill hyder a ffydd y cyhoedd.

"Ry'n ni wedi trio dychwelyd at yr egwyddorion oedd gan Syr Robert Peel, wrth iddo fe sefydlu'r Heddlu yn Llundain yn 1829. Roedd Peel yn gredwr cryf yn yr ymadrodd mai'r heddlu yw y gymuned, a'r gymuned yw'r heddlu.

"A dyna ry'n ni wedi ceisio gwneud fan hyn yn Cincinnati - ymwneud llawer mwy gyda'r cymunedau - yn enwedig y gymuned Affro-Americanaidd yn y ddinas, er mwyn trio ennill eu hymddiriedaeth nhw.

"Fydden i'n cyfadde' nad yw pethau'n berffaith gyda ni o hyd, o bell ffordd, ond ry'n ni wedi symud mlaen yn sylweddol yn y ddinas yma ers 2001."

Ffynhonnell y llun, Cincinnati Police Department
Disgrifiad o’r llun,

Heddlu Cincinnati yn penlinio o flaen protestwyr i ddangos eu cefnogaeth i'r achos

Er hynny, mae'n cydnabod fod hiliaeth yn broblem fawr yn gyffredinol yn America.

"Fuaswn i'n mynd mor bell â dweud fod hiliaeth wedi ei wreiddio'n ddwfn mewn cymunedau ar draws yr Unol Daleithiau. Dwi ddim yn meddwl all neb wadu hynny.

"Gallwn ni ddim cael cymdeithas lle mae pobl yn cael eu stopio gan unrhyw asiantaeth gyhoeddus ar sail lliw eu croen. Ond, mae cymaint o wahaniaethau mewn plismona ar draws y wlad yma, ac mae angen gwasanaeth sy'n llawer mwy unedig na sy' gyda ni nawr. Ac, wrth gwrs, mae angen gwariant canolog i wella'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan adrannau'r heddlu ar draws yr Unol Daleithiau.

"Yn fwy na dim, rwy'n credu bod angen i ni fel heddlu fod yn dryloyw, a rhoi popeth mas yna i'r cyhoedd i weld sut yn union ry'n ni'n gweithredu."

Mae'n dweud y dylai'r heddlu wneud mwy i geisio recriwtio mwy o swyddogion du yn ogystal.

"Yn Cincinnati ar hyn o bryd mae 302 o'r 1,049 o'n swyddogion ni yn ddu. Mae hynny'n eitha' da, ac mae lle i wella eto, wrth gwrs. Ond mae'r sefyllfa fan hyn dipyn iachach nag y mae hi mewn sawl ardal arall yn America.

"Mae Pennaeth yr Heddlu yn Cincinnati - Eliot Isaac, fy mos i - yn ddyn o gefndir Affro-Americanaidd. Ers 2012, mae ei ddau ragflaenydd e yn y swydd wedi bod yn ddynion du yn ogystal. Ac mae hynny eto'n bwysig rwy'n credu."

Ffynhonnell y llun, The Cincinnati Enquirer
Disgrifiad o’r llun,

Chief Eliot Isaac (ar y chwith) yn ystod protestiadau Cincinnati

Yn ôl Mike John, mae'r protestiadau sydd wedi eu cynnal yn ardal Cincinnati ers marwolaeth George Floyd wedi bod yn rhai "heddychlon, gan fwya'."

"Ry'n ni wedi cael peth problemau gyda dwyn o siopau a mân droseddau eraill. Ond pan chi'n ystyried bod miloedd o bobl wedi bod ar y strydoedd, dy'n ni ddim wedi cael lot o drafferthion o gwbl, diolch byth.

"Mae beth wnaeth ddigwydd yn Minneapolis wedi bod yn dorcalonnus, y tu hwnt i unrhyw amgyffred. Mae angen i'r boblogaeth ddu yn America weld newid mawr yn y ffordd mae'r heddlu yn gyffredinol yn gweithredu.

"Mae'n mynd i gymryd amser i ennill ffydd a hyder pobl, wrth gwrs, ond mae'n hollbwysig bod hynny'n digwydd."