Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: 'Penderfyniadau anodd' Cymro yn Ohio

  • Cyhoeddwyd
Iwan GibbyFfynhonnell y llun, Iwan Gibby
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Gibby

Mae cysylltiad hir rhwng y Cymry ac Ohio. Yn 1818 fe wnaeth cymuned o ardal Aberaeron fentro dros Fôr yr Iwerydd a setlo yn y dalaith.

Ond hyd yn oed cyn hynny - yn 1795 - roedd criw o Lanbrynmair ym Mhowys wedi ymgartrefu yn ardal Cincinnati.

Ac ar gyrion y ddinas honno mae Cymro o Sir Gaerfyrddin - sy' wedi cael gyrfa yn y diwydiant cydrannau ceir yn America - bellach yn byw.

Mae Iwan Gibby yn 48 oed a'n hanu o Lanybydder, ac mae wedi byw yn ardal Loveland - rhyw 20 milltir o ddinas Cincinnati - ers pum mlynedd.

Ond mae wedi bod yn yr Unol Daleithiau ers 1996, gan dreulio 15 mlynedd yn nhalaith Kentucky, sy'n ffinio gydag Ohio.

Ffynhonnell y llun, Ioan Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dinas Cincinnati, Ohio

Diwrnod cofiadwy

Fel rheolwr ffatri, mae Iwan wedi hen arfer delio â gwahanol broblemau, ond mae'n dweud y bydd yr 20 Mawrth 2020 yn ddyddiad fydd wastad yn aros yn y côf.

"'Na'r diwrnod pan roedd rhaid i ni gau'r ffatri oherwydd y coronafeirws," meddai Iwan.

"O'n i ddim am roi unrhyw un o'r staff mewn peryg mewn unrhyw ffordd, ac o'dd y cwmni'n gallu gweld mai dyna oedd y peth calla' i wneud."

Mae'r ffatri wedi ei lleoli mewn ardal gymharol wledig rhyw 40 milltir o Cincinnati, a'n cyflogi dros 300 o weithwyr sy'n cynhyrchu cydrannau ar gyfer y diwydiant ceir.

Yn y pythefnos cyn cau'r ffatri, roedd llywodraethwr Ohio, Mike DeWine, wedi cymryd nifer o gamau i geisio atal coronafeirws rhag lledu.

Ar 5 Mawrth llwyddodd y llywodraethwr i gael gorchymyn llys i rwystro'r cyhoedd rhag mynychu'r Arnold Sports Festival - gŵyl chwaraeon fawr yn Columbus, prifddinas Ohio - fyddai wedi denu 250,000 o bobl.

"Mae DeWine wedi bod yn eitha' tough o'r dechrau, i fod yn onest - ac mae hynna'n beth da," meddai Iwan.

"Ohio oedd y dalaith gynta' yn America i gau'r holl ysgolion. Ac fe wnaeth DeWine gyhoeddi state of emergency yn eitha' cynnar ym mis Mawrth, cyn bod neb yn Ohio yn marw gyda Covid hyd yn oed."

Cyfnod cloi

Cafodd y farwolaeth gyntaf o ganlyniad i'r feirws yn Ohio ei chyhoeddi ar 17 Mawrth, ac o fewn llai nag wythnos - ar 23 Mawrth - roedd cyfnod cloi llawn wedi dod i rym yn y dalaith.

Yn ôl y ffigurau diweddara', mae dros 2,100 o bobl wedi marw o'r feirws yn Ohio, a dros 35,000 o achosion wedi eu cofnodi. Mae bron i 12 miliwn o bobl yn byw'n Ohio - y seithfed dalaith fwya' o ran poblogaeth.

"Yn amlwg mae lot o bobl wedi marw gyda ni, ond pan chi'n ystyried faint sy'n byw yn Ohio, wy'n credu fod pethau dipyn gwaeth ym Mhrydain.

"Mae'r lockdown wedi dod i ben gyda ni nawr, ac mae'r gweithwyr nôl gyda ni ers rhyw bythefnos, ond fuon ni ar gau am chwech wythnos i gyd.

"Yn ein ffatri ni, ry'n ni wedi gorfod gwneud lot fawr o waith paratoi er mwyn gwneud yn siŵr bod y lle yn saff i'r gweithwyr i ddod 'nôl. Mae partitions wedi mynd lan gyda ni ar draws y lle.

"Mae rhaid i bob un gweithiwr fod o leia' dwy fetr wrth ei gilydd, ac y'n ni'n strict iawn ar hynna. Ry'n ni'n cymryd tymheredd pawb wrth iddyn nhw ddod i'r gwaith ac mae'n rhaid i bob un i wisgo masgiau hefyd.

"Wedyn, mae gyda ni rhyw 60 o'r gweithwyr sy'n gweithio gyda melted aluminium - lle mae lot o wres - ac maen nhw'n gorfod gwisgo face shields yn hytrach na masgiau oherwydd bydde'r masgiau arferol ddim yn lot o help iddyn nhw.

"Mae rhoi popeth yn ei le wedi costio tipyn i ni, wrth gwrs - tua $40,000 mor belled - ond mae'n rhaid i ni wneud e er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn saff."

Colli staff

Er hynny, mae Iwan yn ofni y bydd rhaid cymryd 'penderfyniadau anodd' yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesa'.

"Mae colli chwech wythnos o gynhyrchu yn amlwg wedi cael effaith arnon ni fel cwmni, ac yn anffodus, wy'n credu bydd rhaid i ni gael gwared ar siŵr o fod tua 10% o'r gweithwyr.

"Felly, ni'n sôn am ryw 30 o bobl, o leia', yn colli eu gwaith, ac mae hynny wastad yn beth trist ac yn rhywbeth anodd i weld.

"Ond does dim dewis 'da ni."

Ffynhonnell y llun, Iwan Gibby
Disgrifiad o’r llun,

Vicki a Nia, teulu Iwan

Er fod y cyfnod clo wedi dod i ben yn Ohio, mae Iwan yn poeni am effaith posib y feirws ar yr ardal lle mae e'n byw gyda'i bartner, Vicki, a'i ferch fach pum oed, Nia.

"Ni'n byw yn ardal Loveland, ar bwys Cincinnati. Pan ry'n ni'n mynd mas ry'n ni fod i wisgo masgiau. Wy' wastad yn gwneud hynny, ond mae lot fawr o bobl ddim.

Ffynhonnell y llun, Iwan Gibby
Disgrifiad o’r llun,

Nia, merch Iwan, yn ei masg

"Hefyd es i i gasglu takeout o le bwyta yn ddiweddar, ac roedd pobl yn eistedd mewn yn y restaurant fan'na. Dim ond teuluoedd sy' fod mas gyda'i gilydd, ac mae'r fordydd i gyd i fod o leia' dwy fetr ar wahan.

"Ond o'n nhw i gyd wedi eu bwnsho yn agos iawn at ei gilydd, ac wy'n siwr bod lot o'r bobl oedd yn rhannu fordydd ddim yn perthyn i'w gilydd, neu'n byw yn yr un tÅ·.

"Os nag yw pobl yn gwrando ar y cyngor maen nhw'n ei gael, mae'r second wave mae'r experts yn sôn amdani yn mynd i ddod yn glou iawn."

Hefyd o ddiddordeb