Cyhoeddi enw Prifardd Eisteddfod T 2020

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd

Ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod T gyntaf erioed, datgelwyd mai'r Prifardd eisteddfodol yw Osian Wyn Owen o'r Felinheli.

Mae'n wyneb cyfarwydd i'r Urdd gan mai fo oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed yn 2018.

Fe ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Prif Lenor ddydd Iau, ac mae hefyd yn un o'r ychydig rai i gyflawni'r 'dwbl' yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan yn 2018, gan ennill y gadair a'r goron.

Yn wreiddiol o'r Felinheli, mae Osian bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda'i ffrind a chyd-fardd Caryl Bryn a'r gath Grês Elin.

Dylai fod yn graddio gyda gradd MA o Brifysgol Bangor fis Mehefin ond oherwydd yr amgylchiadau, gohiriwyd hyn.

Ysgrifennu a gwleidyddiaeth yw ei brif ddiddordebau, ac mae wedi mwynhau amser rhydd yn ystod y cyfnod diweddar i wylio hen ddarllediadau o etholiadau a refferenda gwleidyddol, ac yn ei eiriau ei hun "yn teimlo fel rêl nerd!"

Yn ogystal â hynny, mae wedi bod yn mwynhau ymarferion rhithiol wythnosol Côr Dre.

Ffynhonnell y llun, Urdd

Disgrifiad o'r llun, Mae Eisteddfod T yn chwarae ar eiriau a'r syniad o 'ti' a 'tÅ·'

Ar hyn o bryd mae'n brysur gyda'i swydd newydd fel swyddog y wasg, ac yn mwynhau dysgu cynganeddu i ddosbarth rhithiol brwd, a hynny wedi iddo yntau ddysgu'r grefft gan Gruffudd Antur a Rhys Iorwerth.

Yn ei feirniadaeth, dywedodd Aneirin Karadog: "Safai cerdd 'Clustog' am 'Y Beic' mas o'r darlleniad cyntaf, nid yn unig am ei fod yn destun gwahanol i weddill y cerddi ond hefyd am fod yma lais aeddfed a chrefftus oedd yn canu o'r galon ac yn llwyddo i gyffwrdd â'm calon i.

"Mewn cystadleuaeth uchel ei niferoedd a'i safon, mae 'Clustog' yn haeddu pob clod a ddaw gyda'r wobr."

Yn ail roedd Cristyn Rhydderch Davies o Gaerdydd, ac yn drydydd roedd Lois Campbell o Gelli Aur, Caerfyrddin.