Â鶹ԼÅÄ

Merch o Ddolgellau yw Prif Lenor Eisteddfod T

  • Cyhoeddwyd
Mared Fflur Jones yw prif lenor Eisteddfod TFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mared Fflur Jones yw prif lenor Eisteddfod T

Mared Fflur Jones o Ddolgellau sydd wedi ennill gwobr y Prif Lenor yn Eisteddfod T eleni, gyda darn o waith "llawn cariad a gwewyr" yn ôl y beirniad, Manon Steffan Ros.

Yn ferch fferm Fronalchen ar gyrion Dolgellau aeth Mared i Ysgol Ieuan Gwynedd, Rhydymain ac Ysgol y Gader, Dolgellau cyn symud ymlaen i'r chweched dosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth.

Mae Mared ar fin cwblhau ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'n hen law ar ennill gwobrau eisteddfodol - mae wedi ennill cadair Eisteddfod Ysgol y Gader ac wedi dod yn ail a thrydydd am gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Meirionnydd.

Mae'n chwarae rygbi, yn canu a pherfformio ac yn treulio'r cyfnod hwn yn helpu ar y fferm, yn darllen ac ymgymryd ag ambell brosiect 'DIY'.

'Syml ond dirdynnol'

Datgelwyd mai Mared oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, gyda'r beirniad, Manon Steffan Ros, a'r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno ar sgriniau o'u cartrefi.

Yn ail roedd Osian Wynn Davies o Gaerdydd ac yn drydydd Osian Wyn Owen o Felinheli.

Wrth gyhoeddi mai Mared oedd Prif Lenor Eisteddfod T, ac yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin, roedd Manon Steffan Ros yn uchel ei chanmoliaeth:

"Mae'r awdur yn gyffrous ac yn grefftus, gan ddefnyddio arddull lafar, naturiol a chynildeb clyfar i ddal sylw'r darllenydd. Mae'n plethu stori syml ond dirdynnol, ac yn creu darlun yn y meddwl sy'n gwbl real, yn gwbl glir, yn gwbl deimladwy ac yn llawn cariad a gwewyr."

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfod T yn chwarae ar eiriau a'r syniad o 'ti' a 'tÅ·'

Heddiw yw pedwerydd diwrnod Eisteddfod T ac fe fydd yn dod i ben ddydd Gwener.

Ddydd Llun enillwyd gwobr y Prif Gyfansoddwr gan Cai Fôn Davies o Benrhosgarnedd.

Rosie Jones o Gaerdydd oedd enillydd gwobr Prif Ddysgwr Eisteddfod T, ddydd Mawrth ac enillwyd gwobr y Prif Ddramodydd, ddydd Mercher gan Nest Jenkins o Ledrod ger Ceredigion.

Dros 5,500 wedi cystadlu

Hyd yn hyn, mae 5,500 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda mwy o gystadlaethau byrfyfyr yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos.

Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda'r hashnod #EisteddfodT.

Ddechrau'r wythnos dywedodd y trefnydd Llio Maddocks: "Dan ni wedi bod yn ddibynnol ar gysylltiad we ymhob rhan o Gymru, hyd yn oed reit yn y pentrefi lleiaf ynghanol cefn gwlad! Felly, mae hyn wedi bod yn her yn ei hun.

"Dan ni wedi bod yn dibynnu ar y wefan a phobl i uwchlwytho eu ceisiadau, felly mae jyst trio cyrraedd pobl heb fod yr ysgolion ar agor wedi bod yn her yn ei hun. Ond mae'r ymateb gan rieni wedi bod yn ffantastig."