Nifer achosion coronafeirws Cymru yn dal i leihau

Disgrifiad o'r llun, Dr Andrew Goodall yn siarad yn y gynhadledd i'r wasg ddyddiol ddydd Iau

Mae Prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dweud bod angen pwyll wrth i'r gwasanaeth ddychwelyd i ddulliau mwy o arferol o weithio.

Yn ôl Dr Andrew Goodall wrth y gynhadledd ddyddiol i'r wasg ddydd Iau bod nifer y bobl sy'n cael triniaeth am coronafeirws yng Nghymru yn dal i leihau.

Dywedodd fod 2,200 o welyau acíwt yn wag mewn ysbytai ar draws Cymru, gyda 1,000 o bobl yn cael triniaeth am coronafeirws ar hyn o bryd.

Ychwanegodd fod 62% o welyau gofal dwys yn wag ar draws y wlad hefyd ond y gallai fod misoedd tan y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio yn ôl ei arfer unwaith eto.

System olrhain erbyn Mehefin 1

Tra bod system olrhain y feirws wedi dod i rym yn Lloegr a'r Alban ddydd Iau, dywedodd Dr Goodall bod Cymru yn barod i gyflwyno cynllun tebyg yma erbyn 1 Mehefin.

Clywodd y gynhadledd fod Llywodraeth Cymru wedi recriwtio 600 o bobl ar gyfer y gwaith o olrhain a chyswllt yng Nghymru, ond y bydd angen 1,000 o staff yn y pendraw.

Ychwanegodd Dr Goodall nad oedd angen y rhif hwnnw o'r cychwyn cyntaf.

Dywedodd eu bod wedi llwyddo i ddefnyddio staff sydd eisoes yn gweithio o fewn y gyfundrefn gwasanaethau cyhoeddus.

"Byddwn yn disgwyl i nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi i gynyddu gyda'r galw," meddai.

GIG 'dal ar agor'

Dywedodd Dr Goodall fod nifer y defnyddwyr o wasanaethau adrannau brys wedi gostwng yn sylweddol - tua thraean yn is na'r un adeg y llynedd.

Roedd yna ostyngiad sylweddol o'r defnydd ymysg plant a phobl ifanc - gyda tua 60% yn llai yn derbyn triniaethau o gymharu gyda'r un adeg flwyddyn yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae pryder bod cynlleied o blant yn cael eu gweld gan feddygon ar hyn o bryd

"Mae'n bwysig bod pobl sydd a chyflyrrau allai fod angen gofal brys yn dod i'r ysbyty pan maen nhw angen help," dywedodd Dr Goodall.

"Ry'n ni'n erfyn ar gleifion sy'n bryderus y gallai eu plant fod angen gofal brys i alw 111 neu 999 mewn argyfwng."

Mae nifer y cleifion dos 75 oed hefyd wedi gostwng 40%, dywedodd.

Serch hynny, mae gweithwyr mewn unedau brys wedi sylwi bod cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n dioddef o "or-bryder neu anhwylderau emosiynol a phobl sydd wedi cyflwyno'u hunain yn hwyrach na ddylen nhw, gan arwain at broblemau iechyd ychwanegol."

Niferoedd gofal critigol yr isaf ers mis Mawrth

Dywedodd Dr Goodall fod llawer o awdurdodau lleol yn gweld llai na phum achos newydd o Covid-19 y dydd bellach.

Esboniodd fod y nifer o achosion newydd wedi bod yn gostwng ers dechrau mis Ebrill, "er ein bod yn cynnal ddwywaith cymaint o brofion".

Ychwanegodd fod y mwyafrif o bobl oedd wedi dal yr haint heb fod angen triniaeth mewn ysbyty.

Dywedodd: "Mae 44 o bobl yn derbyn gofal critigol am coronafeirws - mae hyn yn is na'r wythnos diwethaf a'r isaf ers 27 Mawrth."

Dyfodol y GIG

Cleifion brys sy'n dal i gael blaenoriaeth ar hyn o bryd. Ond wedi apêl diweddar, dywedodd Dr Goodall bod nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio at driniaeth canser wedi cynyddu a bod 'na fil o welyau gwag yn barod i drin cleifion newyddion.

"Ry'n ni eisiau i bobl gymryd agwedd cam wrth gam," dywedodd Dr Goodall.

Dywedodd bod 'na arwyddion bod y GIG yn dychwelyd i normalrwydd, ond nad yw'r gwasanaeth yn agos at hynny eto. Ychwanegodd y gallai fod wythnosau os nad misoedd tan y bydd rhai llawdriniaethau oedd fod i gael eu cynnal yn gallu digwydd eto.

Gadael y cyfnod clo

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog gyhoeddi unrhyw newidiadau posib i'r cyfyngiadau cymdeithasol sydd mewn grym ddydd Gwener, a dywedodd Dr Goodall bod rhaid bod yn wyliadwrus o hyd.

"Mae'n rhaid i ni fod yn bwyllog," dywedodd gan ddweud bod y ffaith bod Cymru wedi cadw mesurau llym mewn grym yn hirach na Lloegr wedi bod yn bwysig wrth leihau trosglwyddo'r haint rhwng pobl.

"Rwy'n credu bod y dau neu dri wythnos diwethaf wedi bod yn bwysig iawn ac wedi cyfrannu at leihau trosglwyddo'r haint o fewn y gymuned, ac hefyd wrth ostwng nifer y cleifion yn ein gwelyau acíwt a gwelyau ysbyty.

"Fel enghraifft, dywedais yn gynharach bod nifer y cleifion mewn unedau gofal dwys COVID-19 yn is nag y mae wedi bod ers diwedd Mawrth.

"Rwy'n credu y byddem ni'n hoffi parhau i ganolbwyntio ar sicrhau nad yw'r feirws yma yn gallu ail-afael yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf."