Iechyd meddwl: Rhyddhau 1,694 o gleifion yn gynnar o achos 'gwall'

Cafodd mwy o gleifion iechyd meddwl eu rhyddhau ar gamgymeriad o wasanaethau cefnogol yng ngogledd Cymru na'r ffigwr gafodd ei ddatgelu'n wreiddiol.

Fe ddaeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cynghori pobl i geisio cael eu cyfeirio o'r newydd at wasanaethau pan fydd yr argyfwng coronafeirws yn lleddfu.

Mae'r bwrdd iechyd yn amcangyfrif bod rhwng 200 a 300 wedi cael eu heffeithio ond 1,694 yw'r ffigwr mewn gwirionedd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro ac yn dweud y byddan nhw'n cysylltu â'r cleifion.

Yn ôl Plaid Cymru mae'r sefyllfa yn "drallodus iawn".

Wythnos diwethaf dywedodd prif weithredwr dros dro Betsi Cadwaladr, Simon Dean, wrth bwyllgor y Senedd bod rhyddhau'r cleifion wedi bod yn "wall na ddylai fod wedi digwydd".

Roedd wedi amcangyfrif bod y gwall wedi effeithio ar rhwng 200 a 300 ond bod ei dîm yn "gweithio drwy'r nifer cywir".

'Hynod drallodus'

Mewn llythyr at lefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, cadarnhaodd swyddog o'r bwrdd iechyd bod 1,694 o gleifion wedi eu rhyddhau o'r gwasanaeth ar gam.

Yn wreiddiol, y gred oedd mai dim ond cleifion o Sir y Fflint oedd dan sylw, ond mae'r llythyr yn cadarnhau bod y penderfyniad wedi effeithio pobl ar draws gogledd Cymru.

"Mae un claf yn cael ei ryddhau yn un claf yn ormod," meddai Rhun ap Iorwerth.

"Mae canfod bod 1,694 o gleifion wedi cael eu rhyddhau yn gynnar tra eu bod angen cefnogaeth o hyd gan wasanaethau iechyd meddwl yn hynod drallodus.

Disgrifiad o'r llun, Rhun ap Iorwerth: "Mae'n amlwg bod angen buddsoddiad ar unwaith i ail adeiladu gwasanaethau iechyd meddwl"

"Dwi'n croesawu'r sicrwydd y bydd pob un o'r 1,694 yn cael clywed o fewn y dyddiau nesaf eu bod yn cael eu hadfer i'r gwasanaeth hanfodol.

"Ond mae'r cwestiwn yn parhau sut bod penderfyniad o'r fath wedi digwydd drwy ardal y bwrdd iechyd, a sut fu 'camddehongli' eang o ganllawiau.

"Fe ddylen ni fod wedi bod yn glir y byddai hyn yn annerbyniol. Mae'n amlwg bod angen buddsoddiad ar unwaith i ail adeiladu gwasanaethau iechyd meddwl."

Y bwrdd yn ymddiheuro

Dywedodd Mr Dean ei fod yn awyddus i sicrhau pobl bod gwasanaethau iechyd meddwl yn derbyn pobl sydd wedi eu cyfeirio atyn nhw gan wasanaethau eraill yn ôl yr arfer.

"Mi fydden ni'n cysylltu gyda'r cleifion hynny sydd wedi eu rhyddhau yn ddiweddar i adolygu'r lefel o gefnogaeth maen nhw angen," meddai.

"Hoffwn ddweud ei bod yn ddrwg iawn gennyf am unrhyw loes y gallai hyn fod wedi ei achosi."

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei rhoi dan fesurau arbennig bum mlynedd yn ôl, a dywedodd Llywodraeth Cymru bod gwasanaethau iechyd meddwl yn "hanfodol" yn ystod y pandemig.

"Ry'n ni'n ymwybodol o ohebiaeth yn rhyddhau cleifion o wasanaethau gofal sylfaenol iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn ystod y pandemig," meddai llefarydd.

"Er y darparwyd hwy gyda manylion cyswllt gwasanaethau argyfwng, dyw hynny ddim yn unol â'n canllawiau.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi ein sicrhau y byddan nhw'n cysylltu gyda phob un o'r cleifion sydd wedi eu heffeithio."