Â鶹ԼÅÄ

Betsi Cadwaladr: Iechyd meddwl yw'r 'her fwyaf'

  • Cyhoeddwyd
vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betsi Cadwaladr yn parhau i wynebu "heriau", meddai Vaughan Gething

Gwella gwasanaethau iechyd meddwl yw'r "her fwyaf" sy'n wynebu bwrdd iechyd y gogledd, meddai Ysgrifennydd Iechyd newydd Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod gan Betsi Cadwaladr "waith i'w wneud" er mwyn darparu'r "gwasanaethau cywir".

Daeth ei sylwadau flwyddyn ar ôl i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig - gan olygu ei fod dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Pan yn Ddirprwy Weinidog Iechyd yn y llywodraeth flaenorol, dywedodd Mr Gething y byddai hynny'n parhau yn ei le am ddwy flynedd.

Ond erbyn hyn fe allen nhw ddod allan o fesurau arbennig yn "gynt", os yw'n cael cyngor bod gwelliannau digonol wedi eu gwneud.

Dywedodd Mr Gething hefyd bod y cyhoedd a staff yn teimlo "mwy o gysylltiad" â'r ffordd mae'r bwrdd yn cael ei reoli.

"Iechyd meddwl ydi'r maes mwyaf heriol," meddai. "Maen nhw'n cydnabod bod yna waith i'w wneud er mwyn darparu'r gwasanaeth cywir ar gyfer gofal eilradd ac yn y gymuned hefyd.

"Mae yna nifer o heriau i'w gweithio arnyn nhw."

Yn ddiweddar mae Betsi Cadwaladr wedi recriwtio Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Meddygol, Cyfarwyddwr Nyrsio, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

Gwrando ar 'gyngor'

Bydd Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru, Andrew Goodall, yn ogystal ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, yn cwrdd yn fuan i drafod cynnydd y bwrdd mewn blwyddyn.

Dywedodd Mr Gething y byddai'n gwrando ar eu sylwadau.

"Os ydyn nhw'n dweud y gall Betsi Cadwaladr ddod allan o fesurau arbennig yn gynt, yna fe wna' i gymryd y cyngor hynny - os ydyn nhw'n dweud rhywbeth gwahanol fe wna' i dderbyn y cyngor yna hefyd," meddai.

"Dwi jyst ddim yn meddwl y dylwn ni osod terfyn amser artiffisial ynghylch pryd all neu ddylai'r bwrdd iechyd ddod allan o fesurau arbennig, oherwydd byddai hynny'n niweidio'r hyder rydym yn ceisio adeiladau gyda'r cyhoedd a staff y GIG yng ngogledd Cymru."