Iechyd meddwl: Ymddiheuro am 'gamgymeriad'

Mae un o uwch reolwyr bwrdd iechyd wedi ymddiheuro wedi i gleifion iechyd meddwl gael eu rhyddhau o driniaeth mewn camgymeriad.

Dywedodd Simond Dean, prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bod llythyr yn cynghori cleifion iechyd meddwl i ofyn am eu hail gyfeirio eto pan fyddai'r argyfwng coronafeirws wedi llacio yn "gamgymeriad na ddylai fod wedi digwydd".

Roedd Mr Dean yn ymddangos gerbron sesiwn rhithiol o bwyllgor iechyd y Senedd, a dywedodd fod y llythyr yn "gamddehongliad o ganllawiau Llywodraeth Cymru" a'i fod wedi cael ei yrru gan dimau oedd "yn gweithio o dan bwysau sylweddol".

Dywedodd: "Roedd hwnna'n gamgymeriad na ddylai fod wedi digwydd. Rydym yn gwneud trefniadau i gysylltu gyda'r cleifion a gafodd eu rhyddhau o'r gwasanaeth ar gam."

Cynigiodd Mr Dean ymddiheuriad i'r cleifion oedd wedi derbyn y llythyr.

Gofynnodd Rhun ap Iorwerth AS iddo faint o bobl oedd wedi eu heffeithio, ac a oedd rhannau eraill o'r bwrdd iechyd hefyd wedi camddehongli'r canllawiau.

Atebodd: "Dos gen i ddim rhif pendant i gynnig i chi... mae gen i syniad ei fod oddeutu 200-300 o bobl, ond mae'r tîm yn gweithio drwy'r union rif ar hyn o bryd.

"Dydw i ddim yn ymwybodol o esiamplau tebyg mewn rhannau eraill o'n gwasanaethau.

"Roedd yn gamgymeriad ac ni ddylai fod wedi digwydd, a hoffwn ailadrodd fy ymddiheuriad i unrhyw un y mae hyn wedi digwydd iddyn nhw."