Tri pheth i godi gwên yn Eisteddfod T

Disgrifiad o'r llun, Nid fel hyn fydd gŵyl ieuenctid yr Urdd yn 2020...

Mae'n wythnos Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun, ond nid fel rydyn ni'n ei adnabod...

Mae 'na gerdd dant, llefaru, unawdau a deuawdau ond hefyd mae 'na anifeiliaid anwes, rhieni yn cymryd rhan, dynwared sêr S4C a Gareth yr Orangutan yn feirniad ar sioe bypedau.

Oherwydd y coronafeirws does dim pafiliwn a maes, a'r eisteddfod rithiol - Eisteddfod T - yn cael ei chynnal ar deledu a radio, gyda phlant a rhieni wedi bod yn brysur yn recordio eu hunain adref ar gyfer y digwyddiad.

Mae'r cystadlaethau traddodiadol yn dal i gael eu cynnal ond mae cystadlaethau newydd wedi eu creu hefyd, gyda lot o bwyslais ar hwyl.

Dyma dri pheth i godi'ch calon wrth ichi wylio a gwrando o'ch cartref:

Anifeiliaid talentog

  • Anifail Anwes Talentog, rhwng 4-6pm, dydd Llun

Mae'r Urdd yn torri'r rheol "Peidiwch byth â gweithio gyda phlant ac anifeiliaid" yn rhacs yn 2020.

Mae cyfle i weld talentau ein ffrindiau bach blewog yn gwneud deuawd, perfformio triciau neu gwrs rhwystrau neu pwy a ŵyr beth arall, yn y gystadleuaeth Anifail Anwes Talentog.

Pawen lawen iddyn nhw i gyd!

Mam a Dad (a Nain a Taid)

Disgrifiad o'r llun, Mae Mam a Dad yn cael ymuno yn y cystadlu yn 2020
  • Dawns Ystafell Fyw, dydd Llun rhwng 4-6pm
  • Sgets deuluol, dydd Mawrth rhwng 4-6pm
  • Trêl ffilm, dydd Llun, rhwng 4-6pm
  • Teulu Talent, bob nos rhwng 8-9pm

I'r rhieni sydd wedi bod wrth ochr y llwyfan am yr holl flynyddoedd yn gwylio eu plant yn cystadlu ond yn ysu i ddangos eu talentau cudd eu hunain - dyma eu cyfle!

Bydd cyfle i weld rhieni yn dawnsio gyda'u plant yn y gystadleuaeth Dawns Ystafell Fyw ac yn dangos eu doniau actio yn y Sgets Deuluol neu'r Trêl Ffilm.

Mae 'na gategori ar gyfer Nain a Taid, brodyr a chwiorydd a hyd yn oed cymdogion - a chystadleuaeth Mamma Mia a Da Di Dad De yn gyfle i Mam a Dad serennu ar eu pennau eu hunain - yn y gystadleuaeth Teulu Talent fydd i'w gweld ar y rhaglenni gyda'r nos.

Enwogion

  • Dynwarediad, dydd Mawrth 4-6pm
  • Lip-Sync, dydd Mercher, 4-6pm
  • Deuawd Enwogion Lleol, dydd Iau, 4-6pm

Gobeithio bod sêr teledu a cherddoriaeth Cymru yn barod i weld sut mae plant Cymru yn eu portreadu!

Mae ambell un wedi llwyddo i gael rhywun enwog i ganu deuawd efo nhw hefyd - un yn well na chael llofnod ar y maes!

Mae'r amserlen lawn a'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ac

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Teledu a Radio

Yn ôl yr Urdd mae 4,000 wedi cystadlu yn yr eisteddfod fydd yn cael ei darlledu ar S4C, ar-lein ac ar Radio Cymru.

"Y cynllun gwreiddiol oedd darlledu Eisteddfod T yn fyw ar ein llwyfannau digidol yn ystod y dydd. Ond mae safon, swmp ac amrywiaeth y clipiau wedi ein syfrdanu cymaint, rydym bellach wedi penderfynu ei ddarlledu ar y brif sianel," meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

  • Bydd rhaglen fyw o ddydd Llun i ddydd Gwener, 25 - 29 Mai, yng nghwmni Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris gyda'r cystadlu rhwng 13:00 - 15:00 ac 16:00 - 18:00 bob prynhawn.
  • Bydd y tri ymgeisydd neu berfformiad sydd wedi dod i'r brig yn cael eu dalledu ar y sgrîn a'r enillydd yn ymuno'n fyw ar y rhaglen i glywed y canlyniad.
  • Mae prif seremoni ddyddiol rhwng 16:00-16:14
  • Bydd rhaglen uchafbwyntiau dyddiol am 20.00, gan ddod â'r ŵyl i ben gyda rhaglen uchafbwyntiau'r wythnos nos Sadwrn, 30 Mai am 20.00.
  • Ar Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones ac Ifan Jones Evans yn darlledu'r cystadlaethau hefyd rhwng 14:00 a a 15:00 ac yn sgwrsio efo'r enillwyr, ambell i feirniad, a lleisiau cyfarwydd.
  • Bydd cystadlaethau corau ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru, bob bore.
  • Mae'r cyfan yn dechrau gyda rhaglen rhagflas ar S4C nos Sadwrn 23 Mai am 21:00

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Hefyd o ddiddordeb: