Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Beth allwn ni ddysgu o'r Dirwasgiad Mawr?

  • Cyhoeddwyd
Menyw ar Stryd y Bedyddwyr, Merthyr TydfulFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ddoe a Heddiw: Murlun o'r gorffennol ym Merthyr Tydful

Tlodi enbyd, a channoedd o filoedd o weithwyr ar y clwt - roedd hi'n gyfnod tywyll yng Nghymru ynghanol dirwasgiad mawr yr 1920au a'r 30au.

Mae'r ffigyrau diweithdra diweddaraf yn dangos bod nifer y Cymry sy'n hawlio budd-dal diweithdra wedi bron â dyblu hyd yn oed cyn i'r argyfwng presennol daro'n iawn.

Mae economegwyr yn darogan cwymp gwaeth nag yn yr 20au a'r 30au, felly beth allwn ni ddysgu o gyfnod y dirwasgiad mawr?

Does yna ddim amheuaeth bod y Dirwasgiad Mawr yn gwbl drychinebus i economi Cymru. Fe gododd lefel diweithdra ymhlith dynion yswiriedig i 42.8% ym mis Awst 1932.

Disgwyl cyfnod gwaeth

Mae Sefydliad Masnach y Byd, y WTO, wedi amcangyfrif y gallai masnach ryngwladol ostwng rhyw 13% yn 2020.

Mae un amcangyfrif yn awgrymu y gallai ostwng cymaint â 32%, tua'r un faint â rhwng 1929 a 1932.

Gallai'r ergyd ariannol yn ystod 2020 a 2021 fod cymaint â $9 triliwn yn ôl sefydliad ariannol yr IMF.

Ffynhonnell y llun, Brymbo Heritage Trust
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith dur Brymbo yn yr 1890au cyn y dirwasgiad mawr

Mae effaith y dirwasgiad mawr a darodd Cymru rhwng 1921 a 1939 yn "garreg filltir" yn hanes y wlad, yn ôl yr Athro Martin Johnes o Adran Hanes Prifysgol Abertawe.

Fe "ddinistriwyd" economi ddiwydiannol Cymru, ac i raddau helaeth dyw'r wlad "ddim wedi llwyddo i oresgyn" y difrod a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw, meddai.

Ym Mrymbo ger Wrecsam, roedd 90% o'r gweithlu yswiriedig yn ddi-waith ar ôl i'r gwaith dur gau ym 1930. Ym Merthyr Tydfil, roedd 13,000 o weithwyr ar y clwt.

Ffynhonnell y llun, The Print Collector
Disgrifiad o’r llun,

Fe orymdeithiodd miloedd o gymoedd y de i Hyde Park, Llundain i brotestio yn erbyn newyn ym 1932

Bu all-lifiad enfawr o Gymru yn ystod y cyfnod hwn.

Fe adawodd rhyw 440,000 Gymru i chwilio am waith, yn ôl yr Athro Johnes, ac roedd dau o bob tri gweithiwr wnaeth adael Cymru o dan 30 oed.

Colled enfawr i'r iaith

Roedd colli cymaint o bobl yn ergyd enfawr i'r iaith Gymraeg ac i fywyd y capeli anghydffurfiol yng Nghymru.

Er yr ergydion dychrynllyd i fywyd y Gymru ddiwydiannol, roedd bywyd yng nghefn gwlad hefyd yn enbyd o dlawd.

Yn y tair blynedd ar ôl Medi 1929, fe syrthiodd prisiau fferm Prydain oddeutu 34%.

Yn ôl yr Athro Johnes, roedd y dirwasgiad diwydiannol yn golygu bod "nifer o Gymry ifanc wedi colli cyfle i aros yng Nghymru".

Roedd ffermydd Cymru yn gwerthu eu cynnyrch yn y meysydd glo, ac roedd nifer fawr yn symud o'r ardaloedd gwledig i'r cymoedd i gael gwaith.

Roedd yna ostyngiad aruthrol yn y nifer oedd yn gweithio ar ffermydd Cymru o 68,139 ym 1921 i 42,643 yn 1939.

Cofio'r trallod

Mae Leonard John o Fynachlog-ddu, sy'n 74 oed, yn cofio trafod cyfnod y dirwasgiad mawr gyda'i ddiweddar ewythr Hughie, oedd yn ffermwr ifanc yn ystod y dirwasgiad mawr yng ngogledd Sir Benfro.

Disgrifiad o’r llun,

Leonard John, 74, sy'n cofio trallod ei ewythr wrth gofio'r dirwasgiad mawr

"Rwy'n cofio Wncwl Hughie yn dweud wrtha i ei fod e'n crio wrth aredig gyda'i geffyl," medd Mr John.

"Roedd e'n crio am nad oedd yn gwybod a fyddai digon o arian i dalu am y llafur a'r biliau eraill i'r fferm.

"Dyna mor dlawd oedd hi ar y pryd. Pan ddaeth y dirwasgiad i ben, roedd pobl yn dal yn gyndyn i wario, am eu bod nhw'n ofni cyfnod arall o galedu mawr."

Doedd yna ddim gwladwriaeth les tebyg i'r un fodern i arbed pobl gyffredin rhag y dibyn. Yn ôl haneswyr, roedd diweithdra yn gallu arwain at ddiffyg maeth.

Menywod yn dioddef waethaf

"Fe waethygwyd y sefyllfa gan safon y tai," meddai'r Athro Johnes. "Roedd pobl yn diflasu.

"Roedd dynion yn teimlo nad oedden nhw yn medru cynnal eu teuluoedd.

"Yn aml, menywod oedd yn dioddef waethaf. Roedd rhai yn aml ddim yn bwyta er mwyn sicrhau fod bwyd ym moliau eu gwÅ·r a'u plant. Roedd cael dau ben llinyn ynghyd yn gyfrifoldeb iddyn nhw."

Ond mae hi braidd yn arwynebol i asesu'r cyfnod fel un cwbl dywyll yn ôl yr Athro Johnes.

"Roedd yna nifer o welliannau. I'r rheiny mewn gwaith, roedden nhw yn flynyddoedd da," meddai.

"Roedd yna ddefnydd cynyddol o drydan, dyma oedd oes aur sinema, radio a moduro. Roedd lefelau diweithdra yn amrywio yn aruthrol ar draws Cymru a Phrydain Fawr."

Ddoe a Heddiw

Mae haneswyr yn dweud ei bod hi'n anodd cymharu cyfnod y dirwasgiad mawr gyda'r cyfnod presennol a'r blynyddoedd sydd i ddod.

"Mae'r wladwriaeth les yn llawer cryfach, yn rhannol am fod y llywodraeth ar ôl 1945 yn benderfynol o osgoi dirwasgiad mawr arall," meddai'r Athro Johnes.

"Yn sgil y dirwasgiad mawr fe ddaeth ymrwymiad gwleidyddol a phoblogaidd i ddarganfod ffyrdd gwell o redeg cymdeithas a'r economi.

"Rwy'n gobeithio y bydd y pandemig hwn yn rhoi ysgytwad mawr arall i'r ffordd mae Cymru yn cael ei rhedeg."

Mae modd darllen mwy am Y Dirwasgiad Mawr ar wefan Bitesize y Â鶹ԼÅÄ.