Â鶹ԼÅÄ

Rhieni'n cadw cyswllt â'u babanod drwy ap newydd

  • Cyhoeddwyd
Kai
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kai Jones mewn uned gofal arbennig yn Ysbyty Gwynedd, ond mae ei rieni'n gallu cadw mewn cysylltiad diolch i ap arbennig

Mae technoleg wedi bod yn achubiaeth i lawer yn ystod yr argyfwng coronafeirws, ac mae'r gwasanaeth iechyd yn sicr wedi gorfod addasu eu ffordd o weithio.

Un o'r cynlluniau diweddara' yng ngogledd Cymru ydy ap newydd i helpu rhieni gadw mewn cysylltiad gyda'u babanod os ydyn nhw'n gorfod aros mewn uned gofal arbennig ar ôl cael eu geni.

Oherwydd y cyfyngiadau presennol, dydy hi ddim o hyd yn bosib i deuluoedd fod gyda'u plentyn yn yr uned drwy'r amser.

Ond rŵan mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gallu darparu lluniau a gwybodaeth reolaidd am y babanod drwy'r ap, a hynny mewn modd sy'n ddiogel, yn ôl y bwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Kai' yn anfon negeseuon rheolaidd i'w rieni drwy'r ap

Mae staff yn defnyddio meddalwedd o'r enw BadgerNet Baby Diary i ddiweddaru teuluoedd.

"Mae cysylltiad rheolaidd gan staff yn bwysig iawn i leddfu pryderon rhieni newydd ac i sicrhau eu bod nhw'n deall cyflwr a datblygiad eu plentyn," meddai Caren Radcliffe, rheolwr uned newydd-anedig y bwrdd iechyd.

"'Da ni hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod rhieni'n teimlo'n rhan o ofal y babanod ac mae'r ap yma'n galluogi ni i wneud hynny.

"Oherwydd y newidiadau i drefniadau ymweld yn ystod Covid-19, mae'r dechnoleg yma'n golygu ein bod ni'n gallu cyfathrebu efo rhieni mewn ffordd wahanol, a hynny'n rheolaidd.

"Mae hefyd yn hollbwysig bod nhw'n gweld lluniau o'u plentyn ac mae'r ap yma'n gadael i ni wneud hynny mewn ffordd ddiogel."

'Gwneud i chi deimlo'n agos ato fo'

Un o'r rhai sy'n defnyddio'r ap newydd ydy Lora Jones, mam 31 oed o Lanfaethlu ar Ynys Môn, sydd newydd roi genedigaeth i'w phedwerydd mab ag yntau yn yr uned gofal arbennig yn Ysbyty Gwynedd.

"Mi ddoth Kai yn gynnar am 'mod i'n diabetic, felly mae o wedi gorfod bod yn yr uned gofal arbennig am dipyn. Felly 'da ni'n trio rhannu'n hunain rhwng y plant adra a Kai," meddai.

"Mae'r ap wedi helpu ni i rannu lluniau efo'r teulu, ma' nhw hefyd yn teimlo bod nhw'n gwybod be' sy'n mynd ymlaen.

"Mae o hefyd wedi gwneud i fi deimlo'n llai guilty. Pan ti'n gadael yr ysbyty, ti'n gallu checio'r ap. Os ti'n deffro'n ganol nos, ti'n gallu gweld be' mae o 'di bod yn 'neud. Mae o'n sbesial.

"'Da ni'n codi'n y bore ac agor yr ap a gweld Kai, clywed sut mae o 'di bwydo dros nos. Mae o jyst yn lyfli a'n gwneud i chi deimlo'n agos ato fo - agosach na jyst rhoi ring achos ti'n gweld o, mae'n lot gwell efo llun.

"Ma' nhw'n 'sgwennu dyddiadur fel bod o'n siarad efo fi - 'Haia Mam a Dad, dwi 'di bod yn good boy dros nos'. Mae o'n ciwt!"

Disgrifiad o’r llun,

Rhieni Kai - Lora a Kris Jones

Mae Lora yn dweud y byddai'r cyfnod wedi bod yn anodd iawn iddi heb yr ap.

"Dwi 'di cael postnatal depression yn y gorffennol," meddai.

"Mae'r ap 'di helpu fi ddal y bond 'na. Dwi'n teimlo'n guilty pan 'dwi'n gadael o ond os dwi'n teimlo'n guilty lawr y lôn dwi'n gallu agor yr ap a gweld bod o'n iawn.

"Mae o wedi fy helpu fi lot."

Gydag Ysbytai Gwynedd a Glan Clwyd eisoes yn defnyddio'r ap, mae Ysbyty Maelor yn Wrecsam ar fin cychwyn.