Â鶹ԼÅÄ

Cwis yn gyfle i gymdeithasu yn ystod cyfyngiadau Covid

  • Cyhoeddwyd
cwisFfynhonnell y llun, Menter Caerdydd

Yn y ddrama 'Quiz' gan y dramodydd James Graham, mae un o'r cymeriadau'n dweud fod y cwis tafarn yn rhywbeth unigryw sy'n cyfuno dau beth sy'n bwysig i lawer - yfed a bod yn gywir!

Mae cwisiau tafarn felly wedi bod yn boblogaidd iawn yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ond gyda phob tafarn ar gau sut mae pobl yn ymdopi?

Technoleg sydd wedi dod i'r fei, gan alluogi nifer o bobl i barhau gyda'u cwis tafarn arferol, ond hefyd wedi denu cynulleidfa ehangach gan ei fod yn cynnig cyfle i 'gymdeithasu' ar-lein.

Ond mae gan rai rhesymau eraill dros barhau i geisio cynnal cwis ar-lein yn ystod y pandemig.

Dywedodd Aled Wyn Phillips: "Rwy'n gweithio i Fenter Caerdydd fel trefnydd Gŵyl Tafwyl, ac yn naturiol gyda'r ŵyl honno wedi ei gohirio am eleni, a nifer helaeth o weithgareddau craidd y fenter, roedd angen i ni fel staff ail feddwl sut allen ni gynnal proffil y Gymraeg yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, Menter Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Stiwdio'r cwisfeistr, neu ystafell ffrynt Aled Wyn Phillips!

"Felly ry'n ni wedi dechrau creu cynnwys newydd o bob math, boed yn sesiynau ffitrwydd, amser stori i blant, gweithdai drama, crefftau a choginio, disco/cwis i blant ac wrth gwrs y cwis sydd bellach yn rhan sefydlog o batrwm nos Wener i sawl cartref yng Nghaerdydd a thu hwnt.

"Wrth gwrs mae sawl ffordd y gallwn ni gynnal cwis ar-lein, ond o'n i'n teimlo taw un o'r pethau pwysica' yw gweld wynebau, gweld pobl yn mwynhau, gweld pobl yn hapus wrth ateb ambell i gwestiwn dwl a stryglo gydag ambell gwestiwn anodd!

"Felly Zoom yw cyfrwng y cwis bob nos Wener ac mae'n cynnig cyfle i ugeiniau o bobl weld ei gilydd yr un pryd.

"Dwi'n meddwl dyma'r agosâ gawn ni am y tro i'r profiad o fod mewn cwis tafarn ar nos Wener, ond mae hefyd yn caniatáu i ni fedru rhannu rownd lluniau, neu rownd fiwsig yn weddol ddiffwdan hefyd.

"Fel tîm menter 'da ni wedi dechrau cynnal sesiynau cwis a disgo wythnosol i blant hefyd, ac mae angen ychydig mwy o dechnoleg i'n galluogi ni i neud hynny.

"Lwcus bod gen i offer DJ sy'n segur ar hyn o bryd, felly roedd gweddnewid y rŵm ffrynt fel stiwdio radio fach yn dipyn o hwyl. Ond s'dim ishe i Radio Cymru boeni eto!"

Ffynhonnell y llun, Menter Caerdydd

Pan ddechreuodd cwis Menter Caerdydd fynd ar-lein, roedd tua 35 yn cymryd rhan.

Mae'r nifer yna eisoes wedi cynyddu i dros 60, gyda phobl yn ymuno o Ddyffryn Conwy a Phen LlÅ·n.

Keith Davies greodd dudalen Facebook y Lansdowne Quizzers i fynychwyr tafarn y Lansdowne yn y brifddinas, a Facebook yw'r cyfrwng bellach ar gyfer cwis wythnosol y dafarn gyda phawb yn ei dro yn gosod cwestiynau.

Dywedodd Keith: "Pan ddechreuodd y lockdown, fe fu nifer ohonom yn sôn cymaint bydde ni'n gweld isie'r cwis wythnosol a'r cymdeithasu o'dd yn rhan o'n nos Fercher arferol, ac fe benderfynwyd trio cadw'r peth i fynd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

"Fe wnaetho ni benderfynu defnyddio FB yn fwriadol er mwyn cadw'r fformat mor syml ag oedd yn bosib."

Disgrifiad o’r llun,

Enwch y chwe pherson yma a dwedwch pa un sydd ddim yn perthyn... a pham?

Disgrifiad o’r llun,

Fe gewch chi'r ateb ar y gwaelod

Pan oedd y cwis yn y dafarn, dywedodd Keith fod tua 20 i dimau yn rhan ohono, ond mae'r diddordeb ar-lein wedi denu pobl o bell ac agos.

"Mae'r ymateb wedi bod yn wych. Ma' na bobl o Loegr, Yr Alban, China a Ffrainc wedi cymryd rhan, a'r cwpl o Ffrainc wedi gofyn am hanes y dafarn," meddai.

"Trist oedd gorfod cyfadde mod i ddim yn gwybod, ond mae hynny wedi rhoi nod arall i fi yn ystod y cyfnod yma!"

'Cyfle i berthyn'

Ychydig o hwyl yw'r cwis ar-lein wrth gwrs, ond mae'r ddau gwisfeistr yn gytûn bod elfen bwysig hefyd.

Dywedodd Aled: "Dwi'n credu taw cyfle i berthyn, i lenwi bwlch a hynny yn y Gymraeg yw llwyddiant y cwis yn fwy na'r cwestiynau neu'r cwis feistr.

"Ond y sialens fydd cynnal y diddordeb, cyflwyno ambell beth ffres a falle herio'r dechnoleg wrth ddatblygu dros yr wythnosau."

Ychwanegodd Keith Davies: "Mae'r Lansdowne yn ei hanfod yn dafarn gymdeithasol, gyda phob math o bobl yn cymysgu â'i gilydd - pob cenedl iaith crefydd ac oed, ac yn rhan annatod o wneuthuriad y gymuned leol.

"Mae'r cwis yn ffordd i ni gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a chydnabod, a chyfle jest i holi'n dawel bach - 'Ti'n ok?'."

W ie - yr ateb i'r rownd lluniau uchod?

Ian Hislop (a anwyd yn y Mwmbwls), Catherine Zeta Jones (Abertawe), Jonathan Davies (Solihull), Ben Davies (Castell-nedd), John Cale (Garnant) a Neil Hamilton (Bedwellte). Canolwr Cymru a'r Llewod, Jonathan Davies yw'r unig un na chafodd ei eni yng Nghymru.