Â鶹ԼÅÄ

Cŵn tywys methu hyfforddi'n iawn oherwydd y cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
cloverFfynhonnell y llun, Guide Dogs Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clover y ci tywys dan hyfforddiant yn dychwelyd tegan yng ngardd ei hyfforddwr.

Nid cŵn cyffredin yw cŵn tywys.

Camu drwy strydoedd prysur, osgoi peryglon a thywys pobl o siopau i ddal bysiau neu drenau - mae'r cyfan yn rhan o'u cyfrifoldebau bob dydd.

Ond gyda'r canolfannau hyfforddi ar gau yng Nghymru a'r ffyrdd yn dawel, mae 'na bryder y bydd rhaid i bobl â nam golwg aros yn hirach i gael ci.

Mae gwirfoddolwyr yn defnyddio gwersi fideo i geisio parhau hyfforddiant cŵn yn eu cartrefi a'u gerddi drwy gyfnod cyfyngiadau argyfwng y coronafeirws.

Yn ôl yr hyfforddwr cŵn tywys, Amy John, mae gwirfoddolwyr yn gwneud ymdrech arwrol ar hyn o bryd.

Fel arfer, mae cŵn tywys yn dechrau eu hyfforddiant pan maen nhw'n flwydd oed. Maen nhw'n byw gyda gwirfoddolwr ac yn mynd i ganolfan Cŵn Tywys Cymru i ddysgu sgiliau hanfodol.

Ond pan ddaeth mesurau ymbellhau cymdeithasol i rym, bu'n rhaid cau'r canolfannau hyfforddi, gan olygu bod rhaid i'r gwirfoddolwyr geisio hyfforddi 15 o gŵn yn eu hystafelloedd byw a'u gerddi.

"Maen nhw dal yn mynd mas am dro dyddiol, neu i redeg yn rhydd, ac mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy," medd Amy.

Ffynhonnell y llun, Guide Dogs Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clover yn ymlacio ar ôl sesiwn hyfforddi yn ei gartref

Gyda'r caffis a'r bwytai ar gau a llawer llai o drafnidiaeth nag arfer ar y ffyrdd, mae'n anodd i'r cŵn bach ddod i arfer â'r heriau dyddiol sy'n wynebu cŵn tywys fel arfer.

"Ry'n ni'n cymryd ein cŵn i siopau a chaffis, ry'n ni'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n dod i arfer â bod ar fysiau," meddai. "Ond ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn bosib."

Ffynhonnell y llun, Guide Dogs Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Una yn dysgu sut i gyffwrdd llaw yng nghartref ei hyfforddwr, Jenna

Mae Amy a'i chi Bryngwyn yn gwneud fideos hyfforddi ac yn eu rhannu gyda'r gwirfoddolwyr eraill, sy'n ymarfer gyda'u cŵn cyn anfon fideos yn ôl yn gofyn am adborth.

Efallai eu bod nhw'n edrych fel gemau, ond y tric yw dysgu sgiliau hanfodol, fel cyffwrdd llaw a rhoi eu pen ar seddau, sydd mor bwysig i gadw eu perchnogion yn ddiogel a rhoi sicrwydd iddyn nhw hefyd.

"Maen nhw wedi arfer â mynd o gwmpas y lle tra'u bod nhw gyda ni, mae mor bwysig ein bod ni'n dal ati i wneud hynny er mwyn cadw'u hymennydd yn brysur," medd Amy.

Ffynhonnell y llun, Guide Dogs Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clover wedi cael ei hyfforddi i aros am 60 eiliad cyn bwyta'r bisgedi ar ei goesau

Fel arfer, ar ddiwedd cyfnod o tua 16 wythnos o hyfforddiant, mae'r cŵn yn cael eu 'paru' â pherchennog sydd a nam golwg neu sy'n ddall. Mae cyflymdra'r ci yn un ystyriaeth bwysig.

Ond, dyw'r paru ddim yn digwydd ar hyn o bryd, tan i'r cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol ddod i ben.

"Mae wirioneddol yn drueni. Roedd cŵn 'da ni oedd yn agos at orffen eu hyfforddiant ac yn barod i gael eu paru," medd Amy.

Ffynhonnell y llun, Guide Dogs Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae "byddin" o wirfoddolwyr yn ceisio sicrhau bod cwn fel Clover yn barod i ddechrau hyfforddi yn ystod cyfnod y cyfyngiadau

Mae 59 o bobl rhannol ddall ar restr aros am gi tywys yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond er holl ymdrechion y gwirfoddolwyr, gan nad yw cŵn yn gallu ymarfer sgiliau hanfodol - fel croesi ffyrdd ar adegau prysur a mynd ar drenau neu fysiau yn ystod yr oriau brig arferol - mae'n debyg y bydd yn rhaid i berchnogion aros rywfaint hirach am gi.

Ond mae Andrea Gordon o Gŵn Tywys Cymru yn dweud bod ymdrech y gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth.

"Mae llawer o bobl sy'n byw â nam golwg yn byw ar ben eu hunain, ac mae'r cyfyngiadau presennol yn gallu golygu eu bod nhw'n teimlo ar wahân i'w rhwydweithiau cefnogol arferol, fel eu ffrindiau a'u teuluoedd," dywedodd.

"Dyw llawer ohonyn nhw ddim yn defnyddio'r we, felly mae staff Cŵn Tywys yn eu galw nhw ar y ffôn yn aml er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n iawn.

"Ry'n ni wedi egluro nad oes modd gwneud hyfforddiant wyneb yn wyneb ar hyn o bryd gan ein bod ni'n dilyn canllawiau'r gyfraith.

"Fel mudiad, ry'n ni'n cynllunio am adeg pan fyddwn ni'n gallu ail ddechrau ein gwasanaethau. Mae'n cynlluniau yn cael eu hadolygu yn ddyddiol."