Â鶹ԼÅÄ

Ffrindiau sy'n werth y byd

  • Cyhoeddwyd
Elin Williams a Jazzy'r ciFfynhonnell y llun, Elin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jazzy'r ci wedi gweddnewid bywyd Elin Williams a'i helpu i ennill gradd dosbarth cyntaf.

Mae Elin Williams o Borthmadog yn dweud fod ei chi tywys Jazzy wedi ei helpu i ddod dros iselder, ei gwneud yn fwy hyderus a'i helpu i ennill gradd dosbarth cyntaf yn y brifysgol.

Ychydig iawn mae'r ferch 22 oed yn gallu ei weld ac fe gafodd gi tywys yn 2014 pan oedd hi yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caer yn astudio Llenyddiaeth Saesneg.

Mae Jazzy wedi "newid ei bywyd" meddai Elin sy'n dioddef o'r cyflwr genetig Lebers Congenital Amorosis.

Er ei bod yn gweld yn normal fel plentyn bach fe ddirywiodd ei golwg pan oedd hi'n 14 oed ac ychydig iawn mae'n gallu ei weld rŵan.

Ffynhonnell y llun, Elin Williams
Disgrifiad o’r llun,

Elin gyda Jazzy a'i chwaer Catrin

Daeth Jazzy i bob darlith efo Elin a dod ar y llwyfan efo hi yn ei seremoni graddio.

"Dwi ddim yn gwybod a fyswn i wedi graddio hebddi hi," meddai. "Dwi'n teimlo lot mwy hyderus i drïo am waith efo hi ac mae gen i lot mwy o ffrindiau.

"Dim oherwydd be' mae hi'n ei wneud ond oherwydd yr hyder mae hi wedi ei roi i fi i siarad efo pobl, mynd allan a chyfarfod efo pobl a thrïo pethau newydd.

"Mae'r hyder mae hi wedi ei roi i fi wedi newid fy mywyd i.

"Ro'n i reit shei a distaw cyn ei chael hi achos nad oedd gen i ddigon o hyder i siarad efo pobl mewn darlithoedd ac yn y blaen ond pan mae gynnoch chi gi efo chi mae pawb isho siarad efo chi - maen nhw'n bethau cymdeithasol ofnadwy.

Dod dros iselder

Mae gan gŵn ddeallsurwydd emosiynol meddai Elin.

"Mi wnes i ei ffeindio hi reit anodd mynd i'r ysgol a nes i ddioddef o ychydig bach o depression.

Ffynhonnell y llun, Elin williams
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd diwrnod graddio yn arbennig iawn ac yn fwy arbennig am mod i wedi gallu cerdded ar y llwyfan yn annibynnol efo Jazz"

"Roedd hi'n help mawr i fi allu dod dros hynna achos mae cŵn yn gallu pigo fyny ar eich emosiynau chi gymaint.

"Ella bod nhw ddim yn gallu dweud pam eich bod chi'n teimlo rhywbeth, ond dwi'n meddwl eu bod nhw'n gallu gwybod be rydych chi'n deimlo ac yn gallu newid eu hymddygiad nhw eu hunain i gyd-fynd efo hynna," meddai Elin.

Rhyddid

Doedd Elin ddim yn siŵr sut byddai ci tywys yn ffitio i mewn efo bywyd myfyrwyr i ddechrau ond ar ôl cyfarfod pobl ifanc eraill oedd â chŵn tywys a gweld eu bod yn byw bywydau llawn fe wnaeth y penderfyniad i gael un.

Ar ôl poeni y byddai'n ormod o gyfrifoldeb ac yn ei stopio rhag gwneud pethau neu deithio fe wnaeth ddarganfod mai fel arall oedd hi,

"Os ydach chi'n barod i dderbyn y cyfrifoldeb mae'n rhoi mwy o ryddid ichi. Mae gen i lot mwy o hyder i wneud pethau ar ben fy hun rŵan, efo hi.

Ffynhonnell y llun, Elin williams
Disgrifiad o’r llun,

Jazzy ar ddiwrnod graddio

"Ro'n i'n teimlo mod i'n gallu ymuno efo gymaint mwy o gymdeithasau efo hi achos oni ddim yn gorfod dibynnu ar rywun i ddod efo fi a dod i fy nôl i ac yn y blaen.

"Roedd diwrnod graddio yn arbennig iawn ac yn fwy arbennig am mod i wedi gallu cerdded ar y llwyfan yn annibynnol efo Jazz, oedd yn dangos mod i wedi gallu gwneud y radd i gyd ar ben fy hun."

Helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn

Mae cŵn yn gallu helpu pobl â chyflyrau neu anableddau eraill hefyd.

Mae elusennau yn rhoi cŵn cymorth i helpu plant sydd ar y sbectrwm awstisic drwy eu helpu i ddangos eu hemosiyanu a phobl mewn cadeiriau olwyn hefyd.

Mae Derek Humphreys o Gaernarfon yn cael anhawster cerdded ers iddo gael llawdriniaeth ar ei gefn ar ôl dioddef o TB pan oedd yn ei arddegau.

Roedd yn arfer rhedeg cwmni dosbarthu papurau newydd ac yn crwydro'r wlad yn canu mewn deuawd canu gwlad o'r enw Montana Blue.

Ffynhonnell y llun, Canine Partners
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olga wedi trawsnewid bywyd Derek Humphreys o Gaernarfon.

Ond gwaethygodd ei gyflwr yn 1999 pan oedd Derek yn eu bumdegau ac roedd yn rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn.

Byw bywyd hirach

Roedd yn teimlo'n negyddol iawn am ei fywyd nes i'w wraig ei berswadio i wneud cais am gi gan elusen yn 2013.

Ar ôl cyfnod o hyfforddiant fe ddaeth adre gydag Olga ychydig ddyddiau cyn ei ben-blwydd yn 69.

"Dwi'n meddwl bod Olga wedi adio o leia blwyddyn neu ddwy at y 'mywyd i," meddai "Dwi'n teimlo lot gwell ers pan mae hi efo fi, er mod i'n dal i deterioratio yn ara deg.

"Ond 'di hynna ddim yn dod i fewn iddi rŵan - dwi allan gymaint efo hi ac yn gwneud gymaint dwi ddim yn cael amser i feddwl am bethau.

"Mae hi wedi gwneud gwahaniaeth mawr imi - fyddwn i ddim yn mynd allan hanner gymaint, doedd gen i ddim 'mynadd, ddim yn gweld y pwynt. Ond unwaith daeth Olga dwi allan bob diwrnod efo hi am o leiaf awr a hanner bob dydd.

"Mae hi'n lyfli o gi a mor gyfeillgar efo plant a phawb.

Ffynhonnell y llun, Elin williams

Mae Olga yn helpu Derek mewn amryw o ffyrdd o amgylch y tŷ - agor a chau drysau, codi pethau mae'n eu gollwng ar lawr, nôl y post a nôl dillad glân a chadw ei ddillad budron yn y fasged olchi.

Mae hi hefyd yn tynnu ei fenyg oddi ar ei ddwylo yn y gaeaf ac yn ei helpu i ddadwisgo cyn mynd i'w wely.

"Does na ddim dwywaith fod 'na rywbeth arbennig am gŵn - maen nhw mor gall," meddai Derek.

Helpu myfyrwyr dan straen

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mai 8-14 2017 fe wnaeth Undeb Myfyrwyr Bangor gynnal diwrnod ymlacio gyda chŵn i helpu myfyrwyr sy'n teimlo dan bwysau oherwydd eu harholiadau.

Maen nhw wedi bod yn trefnu Ystafell Ymlacio gyda Chŵn ers rhai blynyddoedd i roi cyfle i fyfyrwyr gwrdd â pherchnogion cŵn tywys ac ymlacio'r un pryd.

Mae'r undeb wedi synnu gan yr ymateb meddai'r cydlynydd cyfathrebu Ffion Jones, gyda channoedd o fyfyrwyr yn dod i'r digwyddiad ac yn ciwio, ac ail-giwio, i ddod i mewn.

"Mae 'na ystadegau sy'n dangos bod cŵn yn gallu bod yn de-stressor," meddai Ffion Jones.

"Rydyn ni'n cynnal y dyddiau yma ar adegau o straen ac mae'r myfyrwyr wrth eu boddau yn gofyn cwestiynau i'r perchnogion ac yn chwarae efo'r cŵn.

"Mae gan lot o fyfyrwyr gŵn adre ond gan eu bod nhw i ffwrdd oddi wrthyn nhw mae'n nhw'n colli eu cŵn.

"Mae iechyd meddwl ein myfyrwyr yn bwysig i'r undeb ac mae hwn yn un o'r digwyddiadau i helpu efo hynny sy'n ein synnu ni bob tro gan yr ymateb."

Ffynhonnell y llun, Elin williams