Cyfyngiadau Coronofeirws: Disgwyl 'mân newidiadau'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd canlyniadau adolygiad i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener.

Mae disgwyl i'r prif weinidog Mark Drakeford amlinellu sut a phryd y gellir cyflwyno "mân newidiadau" i'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu.

Daw hyn wedi i Downing Street gydnabod y gallai gwledydd datganoledig y DU ddilyn trywydd gwahanol o ran llacio'r cyfyngiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn y gynhadledd newyddion ddyddiol.

Mae disgwyl i Mr Drakeford ddilyn trywydd pwyllog, gan ganolbwyntio ar geisio atal cynnydd yn y raddfa R - sef raddfa trosglwyddo'r feirws o fewn y gymuned.

Fe wnaeth gweinidogion Cymru gwrdd ddwywaith ddydd Iau i drafod canlyniadau'r adolygiad o'r cyfyngiadau, sy'n digwydd bob tair wythnos.

Tensiynau

Bydd Llywodraeth Cymru'n datgelu eu cynlluniau diweddaraf ddeuddydd cyn i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, gyhoeddi'r camau nesaf yn Lloegr.

Mae awdurdodau iechyd y DU yn anelu at gadw'r raddfa R dan 1.0, sy'n golygu fod person sydd wedi ei heintio yn trosglwyddo'r feirws, ar gyfartaledd, i un person.

Does dim cadarnhad swyddogol ynghylch yr union ffigwr yng Nghymru ond y gred yw ei fod yn 0.8, ac mae Llywodraeth Cymru unwaith yn rhagor yn apelio ar bobl i aros adref dros benwythnos gŵyl y banc.

Disgrifiad o'r llun, Bydd Mark Drakeford yn gwneud datganiad swyddogol ar Â鶹ԼÅÄ1 brynhawn Gwener

Cafodd tensiynau rhwng llywodraethau Cymru a'r DU eu hamlygu ddydd Iau wedi adroddiadau yn y wasg fod Lloegr ar fin llacio'r cyfyngiadau.

Yn ôl papur newydd The Guardian doedd Mr Drakeford heb gael gwybod o flaen llaw beth yw cynlluniau Mr Johnson.

Roedd yna alwad ffôn ddydd Iau rhwng y ddau, ac arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon, i drafod y sefyllfa ddiweddaraf.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street fod Mr Johnson yn awyddus i holl wledydd y DU fynd i'r afael â'r feirws ar y cyd "hyd yn oed os yw rhannau gwahanol o'r DU yn dechrau symud ar gyflymderau ychydig yn wahanol".

"Bydd y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud ar sail y wyddioniaeth yn achos pob gwlad," meddai'r llefarydd.

Maes datganoledig

Roedd rhai papurau newydd wedi awgrymu fod y cyfyngiadau ar ymarfer corff ar fin cael eu llacio yn Lloegr a byddai mwy o bobl yn cael eu hannog i ddychwelyd i'r gwaith.

Ers hynny mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn bwriadu symud ymlaen "gyda'r pwyll mwyaf".

Fe wnaeth yr adroddiadau ysgogi pryder o fewn Llywodraeth Cymru nad oedd y straeon yn ei gwneud hi'n ddigon clir fod iechyd yn fater datganoledig ac mai gweinidogion ym Mae Caerdydd sy'n penderfynu ar y cyfyngiadau yng Nghymru.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod rhai o'r straeon newyddion "yn ddryslyd ac yn danfon negeseuon cymysg i bobl ar draws y DU".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn cyfweliad â Â鶹ԼÅÄ Cymru, awgrymodd Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth y DU, Simon Hart fod "Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'n agosach o lawer nag y mae'n ymddangos ar hyn o bryd".

Dywedodd fod "angen tystiolaeth i gefnogi" unrhyw wahaniaethau o ran y camau nesaf, ond nad yw'n sicr "fod y dystiolaeth wedi ei gweld gan naill ai Mark Drakeford na finnau ar hyn o bryd".

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl newidiadau "cymharol fach" i'r cyfyngiadau yn Lloegr yng nghyhoeddiad Mr Johnson ddydd Sul.

Yn y cyfamser, mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn NhÅ·'r Cyffredin wedi ysgrifennu llythyr at Mr Drakeford a Mr Johnson yn dweud na ddylid gwneud newidiadau sylweddol i'r mesurau.

Maen nhw'n galw am lynu i'r neges 'aros adref i achub bywydau'.

"Byddai hyd yn oed mân newid i'r neges yn peri risg o greu dryswch gyda chanlyniadau a allai fod yn drychinebus," meddai'r llythyr.

"Rydym yn eich annog nid yn unig i gadw'r polisi, ond i sicrhau nad oes yna unrhyw newid ym meddyliau pobl bod yn rhaid aros adref i achub bywydau."

Mae disgwyl i Mr Drakeford wneud datganiad am y camau nesaf yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru am 12:30.