Â鶹ԼÅÄ

'Symud gyda'n gilydd' i lacio mesurau ar draws y DU

  • Cyhoeddwyd
rebecca evans

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r bwriad ydy symud "mor agos ag y gallwn ni" i weddill y DU pan mae'n dod at lacio'r cyfyngiadau coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans ei bod hi'n "bwysig ein bod ni'n symud gyda'n gilydd pan allwn ni", gan fod cymaint o bobl yn byw yn agos at y ffin rhwng y ddwy wlad.

Mae disgwyl i brif weinidog y DU, Boris Johnson wneud cyhoeddiad ar y mesurau ddydd Sul, gyda mwy o fanylion ar sut fydd rhai yn cael eu codi.

Ond mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud na ddylai cymryd camau ar y cyd olygu bod un rhan o'r DU yn gorfod codi cyfyngiadau cyn ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny.

21 marwolaeth Covid-19

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 21 yn rhagor o farwolaethau gyda coronafeirws yng Nghymru ers dydd Mawrth, gan fynd â chyfanswm y rhai sydd wedi marw gyda'r haint yma i 1,044.

Daeth cyhoeddiad hefyd bod 95 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cadarnhau yng Nghymru, ac mae'r cyfanswm bellach yn 10,764.

Gyda'r ddau rif, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debyg o fod yn llawer uwch gan mai llai na 38,000 o bobl sydd wedi cael prawf am y feirws.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach ddydd Mercher, awgrymodd Mr Johnson y gallai rhywfaint o'r cyfyngiadau coronafeirws ddechrau cael eu llacio o ddydd Llun ymlaen.

Dywedodd Mr Johnson fod aros tan ddydd Sul i wneud datganiad ar y mater yn golygu y bydd ganddo'r wybodaeth ddiweddaraf wrth law i wneud y penderfyniadau.

Mae prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd eisoes wedi rhybuddio y gallai'r haint ledaenu eto os yw'r cyfyngiadau'n cael eu codi'n rhy fuan.

Cyfraddau'n gostwng

Yng nghynhadledd i'r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd Ms Evans eu bod yn "edrych i weld allwn ni estyn ein cefnogaeth i hynny".

"Rydyn ni'n awyddus i symud mor agos ag y gallwn ni gyda Lloegr ar hyn o bryd," meddai.

"Achos yma yng Nghymru mae cymaint o bobl sy'n byw ar y ffin rhwng y ddwy wlad, felly mae'n bwysig ein bod ni'n symud gyda'n gilydd pan allwn ni.

"Rydw i'n disgwyl ar y penwythnos y bydd y Prif Weinidog yn ofalus wrth godi'r cyfyngiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Boris Johnson yn gwneud cyhoeddiad ar y cyfyngiadau coronafeirws ddydd Sul

Mewn datganiad i'r Senedd yn ddiweddarach ddydd Mercher dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod nifer yr achosion yng Nghymru'n gostwng a bod cyfradd heintio'r feirws ar i lawr hefyd.

Ychwanegodd mai ychydig dros 900 o bobl oedd yn yr ysbyty â Covid-19 bellach, gyda 70 yn cael gofal dwys - o'i gymharu â dros 100 yng nghanol Ebrill.

"Ond mae'n parhau i fod yn agos at y lefel fyddai'n ein rhoi ni mewn perygl eto," meddai.

"Dydy'r argyfwng ddim drosto, er bod arwyddion positif."

Arian i elusennau

Yn y gynhadledd dywedodd Ms Evans y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r Trysorlys yn Llundain am gael ymestyn eu pwerau benthyca i ddelio â'r pandemig a'r hyn sydd i ddod wedyn.

"Fe fydd yn rhaid i ni weithredu'n sydyn wrth i ni ddechrau adfer, ac felly bydd angen mwy o hyblygrwydd o ran faint allwn ni fenthyg a phryd," meddai.

Dywedodd hefyd y dylai Llywodraeth y DU weithredu'n raddol os ydyn nhw am gymryd unrhyw gamau i ddod â'r cynllun seibiant-o'r-gwaith i ben.

"Beth allai ddim gweld yw diwedd sydyn i'r cynllun furlough, sydd mor bwysig o ran cadw pobl yn eu swyddi wrth i ni symud allan o'r argyfwng ac i mewn i'r cyfnod adfer," meddai.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth o £26m i helpu elusennau drwy'r pandemig.

Dywedodd Ms Evans y bydd "miloedd o elusennau bach o fewn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn £10,000 mewn grant cymorth busnes i'w helpu nhw i ymateb i heriau ariannol Covid-19".