Â鶹ԼÅÄ

Gall fod angen 30,000 prawf y dydd, medd adroddiad

  • Cyhoeddwyd
prawf

Gallai fod angen tua 30,000 o brofion dyddiol pe bai galw ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i brofi pawb am symptomau coronafeirws, yn ôl adroddiad sydd wedi dod i law'r Â鶹ԼÅÄ.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen system o gadw golwg manwl ar yr haint, er mwyn gallu llacio'r rheolau ynysu presennol.

Ond mae'r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu pa mor fawr y gallai'r dasg yna fod.

Dywed Plaid Cymru fod yr adroddiad yn cynnwys "gymaint o gwestiynau ag atebion".

Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am sylw.

Dywed yr adroddiad y byddai'r gwaith o geisio dilyn trywydd yr haint yn cael ei wneud gan 94 o dimau ledled Cymru, gyda phob tîm yn gyfrifol am ardal gyda phoblogaeth o tua 30,000.

Petai'r "holl boblogaeth sydd â symptomau" angen prawf, yna byddai angen "tua 30,000 o brofion" y dydd, meddai'r adroddiad.

Ar hyn o bryd, mae 2,100 o brofion yn gallu cael eu cynnal yn ddyddiol.

Mae'r adroddiad yn dweud bod profi yn ffordd dda o ddilyn trywydd yr haint, ond bod "pwysau sylweddol" ar adnoddau ac "ansicrwydd parhaol am argaeledd deunyddiau a phecynnau prawf".

Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod ei lywodraeth yn ystyried defnyddio ap newydd, sy'n destun cynllun prawf ar Ynys Wyth, fel rhan o'r prosiect.

Byddai'r ap yn cynorthwyo'r gwaith drwy ddefnyddio signalau Bluetooth ar ffonau symudol.

Ond dan y cynllun drafft, byddai gan bob tîm hefyd rhwng 15 a 17 aelod gan olygu gweithlu o rhwng 1,400 a 1,600 o weithwyr llawn amser, saith niwrnod yr wythnos.

Fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydlu canolfan genedlaethol i ddarparu cymorth ychwanegol ar y ffôn ar gyfer y gwaith o gadw llygad ar ledaeniad yr haint.

'Dim ymrwymiad clir'

Dywedodd Plaid Cymru bod y ddogfen yn codi gymaint o gwestiynau ac sydd o atebion.

"Yn bryderus, does dim ymrwymiad clir na strategaeth i leihau cyfraddau trosglwyddo mor agos at sero a phosib..." meddai'r AC Rhun ap Iorwerth.

Ychwanegodd y byddai angen newid mawr mewn gallu i gynnal profion: "Byddai 10,000 y dydd yn ddechrau da, ond mae'n bosib y byddwn angen tair gwaith hynny."

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Angela Burns: "Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi'r gorau i'w targedau profi pan ddaeth i'r amlwg nad oedden nhw'n gallu eu cyrraedd, a nawr maen nhw'n bod yn wylaidd gydag ap y DU.

"Sut all Cymru ddod allan o'r cyfyngiadau pan mae targed enfawr mae'r llywodraeth angen ei gyrraedd?"